Yr Athro Anthony Cohn

Etholwyd: 2024

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Deallusrwydd Artiffisial

Athro Rhesymu Awtomataidd, Prifysgol Leeds

Mae diddordebau ymchwil yr Athro Cohn yn amrywio o waith damcaniaethol ar y ffyrdd o ddeall y berthynas rhwng gwrthrychau a’u lleoliadau yn y gofod, sut mae cyfrifiaduron a pheiriannau’n dehongli gwybodaeth weledol a Systemau Cymorth Penderfyniad, yn enwedig ar gyfer yr amgylchedd adeiledig.

Arweiniodd y gwaith hwn at system VAULT arobryn yr Alban, sy’n rhannu gwybodaeth am leoliad pibellau a cheblau tanddaearol, ac a arweiniodd at sefydlu’r system National Underground Assets Register ar gyfer gweddill y DU.

Enillodd Wobr 2021 Herbert A Simon Cognitive Systems, Distinguished Service Awards gan IJCAI ac AAAI, ac mae’n Gymrawd yr Academi Frenhinol Peirianneg, a chwe chymdeithas ddysgedig Deallusrwydd Artiffisial / Cyfrifiadureg.