Yr Athro Antonio Gil

Etholwyd: 2024

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Mecaneg Gyfrifiadurol

Pennaeth yr Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol a Mecanyddol, Prifysgol Abertawe

Mae’r Athro Gil yn Athro Mecaneg Gyfrifiadurol yn Sefydliad Zienkiewicz ar gyfer Modelu, Data a Deallusrwydd Artiffisial ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ganddo fwy nag 20 mlynedd o brofiad ymchwil a hanes helaeth o
gyhoeddiadau, cyllid ac effaith o fewn diwydiant, ac mae ei gyfraniadau wedi arwain at ddarganfyddiadau sylfaenol ym meysydd mecaneg a roboteg. Mae ei waith wedi cael ei gydnabod gyda gwobrau mawreddog fel Gwobr Leverhulme y DU a gwobr ECCOMAS Olgierd Cecil Zienkiewicz.