Professor Colin Hughes

Etholwyd: 2012

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Gwyddorau moleciwlaidd, Microbioleg Feddygol

Mae’r Athro Colin Hughes ScD FLSW yn Gymrawd Coleg Y Drindod Caergrawnt ac yn Athro Emeritws Microbioleg ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Fe’i ganwyd ac fe’i magwyd yng ngogledd Cymru. Yn dilyn cyflawni PhD ym Mhrifysgol Caint ac ymchwil ac addysgu yn Fiena yn yr Almaen a’r UDA, ymunodd ag Adran Patholeg Caergrawnt i sefydlu ymchwil i eneteg foleciwlaidd bacteria pathogenig. Mae ei waith yno dros 30 mlynedd wedi canolbwyntio ar y peiriannau cellog sy’n sail ar gyfer biogenesis ffactor mileindra bacteriol, yn benodol sut caiff gwenwynau protein eu gwneud (1) sut mae pympiau allforio a dylifo’n cael eu creu a’u gweithredu yn amlen y gell (2), a sut caiff fflagela eu cyfosod ar arwyneb y gell i ganiatáu symudoldeb (3). Bu’n Ddirprwy Bennaeth yr Adran Patholeg, Cyfarwyddwr Addysgu a Phennaeth ei Hadran Microbioleg a Pharasitoleg. Gwasanaethodd ar Gyngor Coleg Trinity a sefydlodd fwrsariaethau i fyfyrwyr o Gymru. Derbyniodd radd ScD o Gaergrawnt ac fe’i hetholwyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2012.

1. Activation of E.coli prohemolysin to the mature toxin by acyl carrier protein-dependent fatty acylation, Nature (1991) 351:759.
2. Crystal structure of the bacterial membrane protein TolC central to multidrug efflux and protein export, Nature (2000) 405:914.
3. A chain mechanism for flagellum growth, Nature (2013) 504:287.

Mae rhestr gyflawn o gyhoeddiadau ymchwil Colin Hughes i’w gael ar Google Scholar.