Dr Eurwyn Wiliam

Etholwyd: 2024

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Ethnoleg, Hanes

Ceidwad Emeritws, Amgueddfa Cymru

Yn ei waith ymchwil mae Dr Wiliam yn canolbwyntio ar gartrefi a bywydau tlodion cefn gwlad o’r gorffennol, na roddwyd rhyw lawer o sylw iddynt yn flaenorol, ac ar hanesyddiaeth. Mae wedi hyrwyddo canlyniadau ei waith drwy gyhoeddiadau academaidd ac yn ehangach drwy gyfryngau, gan gynnwys arddangosfeydd parhaol mewn amgueddfeydd. Mae hyn wedi dylanwadu ar bolisi ac ymarfer cadwraeth cenedlaethol, ac wedi cryfhau dealltwriaeth y cyhoedd. Mae hefyd wedi meithrin ymchwil amlddisgyblaethol mewn dau sefydliad cenedlaethol ac wedi gwella eu cyfraniadau at gyfnewid a lledaenu gwybodaeth.