Yr Athro Graeme Garrard
FRHistS FLSW
Athro Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd
Mae’r Athro Garrard yn Athro Meddwl Gwleidyddol ac yn ysgolhaig blaenllaw ar hanes deallusol Ewrop, y mae wedi’i ddysgu ers tri degawd mewn prifysgolion ym Mhrydain, Ffrainc a’r Unol Daleithiau. Mae wedi cyhoeddi llawer o lyfrau ac erthyglau gwreiddiol ar gyfer ysgolheigion arbenigol yn y maes hwn, yn enwedig ar yr Oleuedigaeth a’i feirniaid, a hefyd ar gyfer darllenwyr cyffredinol sydd â diddordeb