Yr Athro Indu Deglurkar

Etholwyd: 2024

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Meddygaeth - Llawdriniaethau, Meddygaeth – Cardiothorasig

Llawfeddyg Cardiothorasig Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Athro Gwadd Anrhydeddus, Sefydliad Gwyddorau Meddygol Sri Venkateswara Prifysgol (SVIMS) Tirupati, India

Mae’r Athro Deglurkar yn Llawfeddyg Cardiothorasig Ymgynghorol, sydd â diddordeb arbennig mewn llawfeddygaeth aortig a llawfeddygaeth risg uchel mewn octogenariaid. Mae hi wedi perfformio dros 2000 o lawdriniaethau calon agored, gyda chanlyniadau gwych.

Mae gan yr Athro Deglurkar Gymrodoriaeth Arweinyddiaeth Uwch ar gyfer Uwch Weithredwyr o Ysgol Fusnes Harvard, a nifer o rolau arweinyddiaeth ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, gyda’r nod o wella gofal cleifion, tegwch mynediad a lles staff.