Yr Athro Iram Siraj

Etholwyd: 2024

Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Polisi ac Ymchwil Addysg

Athro Addysg a Datblygiad Plant, Prifysgol Rhydychen

Addysgwyd yr Athro Siraj yng Nghaerdydd ac mae wedi dal swyddi ym Mhrifysgol Warwick, Coleg Prifysgol Llundain a Phrifysgol Rhydychen. Mae wedi derbyn £25m mewn grantiau ymchwil ac wedi ysgrifennu 300 o gyhoeddiadau, sef llyfrau a phapurau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid yn bennaf. Mae’r astudiaeth EPPSE ddwy flynedd ar bymtheg o hyd wedi dylanwadu ar ansawdd yn nyluniad y cwricwlwm ac addysgeg, ac ar bolisi ac ymchwil ym maes addysg cyn-ysgol yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae wedi cynghori nifer o Weinidogion Addysg Cymru ac yn 2015 dyfarnwyd OBE iddo am wasanaethau i addysg gynnar.