Professor Margaret MacMillan

Etholwyd: 2020

Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Hanes

Yr Athro Macmillan yw gor-wyres David Lloyd George. Mae hi’n hanesydd o Ganada ac yn brofost Coleg y Drindod; mae hi’n gyn-Warden Coleg Sant Anthony, Rhydychen. Mae hi’n hanesydd sy’n adnabyddus am ei gwaith yn ymwneud â’r Ymerodraeth Brydeinig ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif.

Yn 2017, traddododd hi un o ddarlithoedd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, sef ‘David Lloyd George: Cymodwr’, i nodi canmlwyddiant yr achlysur o benodi Lloyd George yn Brif Weinidog. Fe wnaeth hi draddodi Darlith Reith yn 2018 ar thema rhyfel; teitl y ddarlith oedd ‘The Mark of Cain’.

Mae hi wedi bod yn hanesydd hynod o lwyddiannus. Fe wnaeth ei llyfr, Peacemakers: The Paris Peace Conference of 1919 and Its Attempt to End War ennill Gwobr Duff Cooper am waith llenyddol eithriadol ym maes hanes; Gwobr Hanes Hessell-Tiltman; gwobr fawreddog Samuel Johnson Prize am y gwaith ffeithlen gorau a gyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig; a Gwobr Lenyddol Uchaf-Lywodraethwr Canada yn 2003.

Mae’r Athro Macmillan yn ddeallusyn cyhoeddus ac yn awdures adnabyddus nifer o lyfrau ac erthyglau. Bydd hi’n cynnig sylwadau rheolaidd yn y cyfryngau ynghylch materion cyhoeddus, ac roedd hi’n un o blith 200 o enwogion a lofnododd lythyr at bapur y Guardian yn gwrthwynebu annibyniaeth i’r Alban.