Yr Athro Martina Feilzer

Etholwyd: 2022

Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol, Humanities, Arts & Social Sciences

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Y Gyfraith

Athro Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, Prifysgol Bangor

Troseddegwr yw Martina sydd â phrofiad helaeth mewn gwaith ymchwil ac mae ei diddordebau mewn tri phrif faes – arferion gwyliadwriaeth a’u dylanwad mewn gwladwriaethau democrataidd; arferion a dilysrwydd sefydliadol mewn cyfiawnder troseddol; a rôl pragmatiaeth fel athroniaeth ymchwil.  Mae ei brwdfrydedd dros y Grŵp Cynghori ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr wedi’i feithrin dros amser – Martina oedd Cadeirydd y Grŵp Datblygu Ymchwilwyr a’r Concordat ym Mhrifysgol Bangor rhwng 2018 a 2023 ac roedd ynghlwm â sefydlu’r Rhaglen Arweinyddiaeth Ymchwil Cymru Gyfan. Mae datblygiad ymchwilwyr ar hyd pob cam o yrfa academaidd a’r gwahanol sefydliadau sy’n llunio’r dirwedd ymchwil yn hanfodol i ecosystem ymchwil ac arloesi sefydlog a gwydn yng Nghymru.

yn ôl i'r brig