Yr Athro Michael Hughes
DSc FLSW
Athro Peirianneg Biofeddygol, Prifysgol Khalifa
Mae ymchwil yr Athro Michael Hughes mewn peirianneg biofeddygol yn archwilio’r rhyngweithio rhwng celloedd a meysydd trydan; mae’n defnyddio hwn i astudio sut mae celloedd yn rhyngweithio â’u hamgylchedd, i wneud diagnosis o glefydau fel canser, ac i archwilio sut y mae celloedd yn defnyddio eu priodweddau trydanol eu hunain i ryngweithio â chelloedd eraill. Yn ogystal, mae’n datblygu’r peiriannau sydd eu hangen i wneud y mesuriadau hyn, ac mae’n gweithio gyda chwmnïau sydd wedi’u sefydlu i gyflwyno’r dechnoleg i’r farchnad.