Reverend Owen E. Evans

Etholwyd: 2011

Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Diwinyddiaeth

Cofio Owen E Evans – ysgolhaig y Testament Newydd a fu’n darlithio yn y Brifysgol ym Mangor ac a roddodd flynyddoedd o lafur i’r dasg o gyfieithu’r Beibl Cymraeg Newydd

Fel un o blant y Bermo, Sir Feirionnydd, y bydd cyfeillion Owen Evans yn ei adnabod, er mai yn Llundain y treuliodd bum mlynedd gyntaf ei oes. Fe’i ganed ar 23 Rhagfyr 1920, a phan fu farw ei dad, fferyllydd wrth ei alwedigaeth, symudodd y teulu’n ôl i Gymru, ac ymgartrefu yn y Bermo. Wedi gadael yr Ysgol Ramadeg yn 1937 aeth Owen yn ôl i Lundain, gan ymuno â’r Gwasanaeth Sifil, a thra’r oedd yno dechreuodd bregethu ar y gylchdaith Fethodistaidd Gymraeg. Yn ystod y cyfnod hwn teimlodd awydd i gynnig ei hun yn ymgeisydd am y weinidogaeth, a chafodd ei dderbyn i goleg ei enwad yn Headingley, Leeds. Bu’n astudio yno o 1946 hyd 1949, a thra’r oedd yno daeth dan ddylanwad Vincent Taylor, ysgolhaig ym maes y Testament Newydd y bu gan Owen feddwl uchel ohono. Cafodd Owen ei ordeinio yn 1951, a bu’n weinidog am ddwy flynedd yn Nghricieth, ond yn fuan wedyn fe’i penodwyd i Gadair y Testament Newydd yng Ngholeg Hartley Victoria ym Manceinion, lle bu am 16 mlynedd. Tra’r oedd yno rhoddodd beth o’i amser i gynorthwyo ysgolhaig adnabyddus arall ym maes y Testament Newydd, sef T.W. Manson, a oedd yn darlithio yn y brifysgol ym Manceinion. Mae’n ddiddorol nodi mai’r peth olaf a gyhoeddodd Owen oedd ysgrif yn dwyn y teitl ‘On Serving Two Masters’, lle mae’n talu teyrnged i Taylor a Manson, ac yn trafod y modd y bu iddynt  ddylanwadu arno. Cyhoeddwyd yr ysgrif (a oedd wedi ei sgrifennu flynyddoedd ynghynt, ond heb ei gyhoeddi) yn y gyfrol, The Bible in Church, Academy and Culture: Essays in Honor of John Tudno Williams (gol.  Alan P.F. Sell; Eugene, Oregon, UDA: Wipf & Stock 2011, tt. 124-41).

Yn nechrau 1969 ymunodd Owen â’r Adran Efrydiau Beiblaidd (fel yr adwaenid hi bryd hynny) yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor, yn ddarlithydd y Testament Newydd trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yno y bu hyd nes iddo ymddeol yn 1988.

Fe’i penodwyd yn gadeirydd y panel a fu’n gyfrifol am gyfieithu’r Testament Newydd yn 1963, ac yna, yn 1974, fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr y Beibl Cymraeg Newydd. Byddai’n anodd i neb amgyffred yr amser a’r llafur a roes Owen Evans i’r gwaith hwn, a thrwy ei waith diflino ef a’i gyd-banelwyr fe sicrhawyd bod y Beibl cyfan yn barod i’w gyhoeddi erbyn dydd Gŵyl Dewi 1988. Ymddangosodd y Testament Newydd yn 1975, ond bu panel y Testament Newydd yn parhau i gyfarfod, gan fod angen diwygio’r fersiwn hwnnw a chyfieithu llyfrau’r Apocryffa. Cafodd cyfraniad Owen ei gydnabod pan ddyfarnwyd iddo radd Doethur mewn Diwinyddiaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1988, a maes o law fe’i etholwyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Gallesid bod wedi disgwyl i Owen orffwys ar ei rwyfau ychydig ar ôl iddo ymddeol a gweld cyhoeddi’r Beibl Cymraeg Newydd, ond i’r gwrthwyneb: aeth ati wedyn i baratoi Mynegair, sef rhestr yn nhrefn yr wyddor o bob gair sy’n ymddangos yn y Beibl Cymraeg Newydd – gwaith cwbl eithriadol a gymerodd ddeng mlynedd i’w gwblhau. Golygai’r gwaith hwn feistroli’r holl dechnegau cyfrifiadurol newydd oedd ar gael, ac nid oes unrhyw amheuaeth bod y gyfrol a gyhoeddwyd – sy’n ymestyn ymhell dros fil o dudalennau – yn gampwaith ac yn arf pwysig, defnyddiol, ac angenrheidiol i’r sawl sy’n astudio’r Beibl o ddifri.

Nid rhyfedd bod nifer o gyhoeddiadau Owen, yn enwedig o 1976 ymlaen, yn ymwneud â’r dasg o gyfieithu’r Beibl. Dyna oedd testun Darlith Goffa Henry Lewis, a draddododd Owen yn 1976, a’r un oedd thema Darlith Goffa A.S. Peake, a draddodwyd yn Saesneg gan Owen yr un flwyddyn. Y flwyddyn gynt, traddododd ddarlithoedd D.J. James, ac fe’u cyhoeddwyd  mewn cyfrol yn dwyn y teitl, Saints in Christ Jesus: A Study of the Christian Life in the New Testament (Gwasg John Penry, 1975). Mewn cyfrol ddiweddarach trafododd ddilysrwydd, awduriaeth, dyddiad a lleoliad y llythyrau hynny yn y Testament Newydd a briodolir i Paul (Arweiniad i’r Testament Newydd: Y Llythyrau Paulaidd; Gwasg Prifysgol Cymru, 1984).

Bu Owen yn heddychwr o argyhoeddiad ar hyd ei oes. Bu’n wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac yn 1941 gorfu iddo sefyll o flaen tribiwnlys ym Mae Colwyn yn dadlau na allai gysoni rhyfela â’i ffydd fel Cristion. Bu’n weithgar yng Nghymdeithas y Cymod am flynyddoedd lawer, gan gael ei ethol yn Is-Lywydd yn 1989-1991 ac yn Llywydd y mudiad yn 1992-94.

Bûm yn fyfyriwr iddo yn y 70au cynnar, ac un o’i nodweddion arbennig fel darlithydd oedd ei garedigrwydd ystyriol tuag at yr holl fyfyrwyr dan ei ofal. Ef a’m dysgodd sut i ddarllen y Testament Newydd yn yr iaith wreiddiol, a bydd pawb a fynychodd ei ddosbarthiadau’n cofio am y sylw manwl a roddai i ystyr a tharddiad pob gair. Pan ddeuthum yn ôl i Fangor yn ddarlithydd ar ddiwedd y 70au, bu Owen yn gydweithiwr hynaws a pharod iawn ei gymwynas bob amser, a mawr fu fy nyled bersonol iddo am ei gefnogaeth, ei gyngor caredig a’i gyfarwyddyd doeth dros y blynyddoedd.

Pan fu i Owen ymddeol o’r Adran, cefais y fraint o olygu cyfrol deyrnged iddo (Efrydiau Beiblaidd Bangor 4, Gwasg Gee, 1988), ac  roedd hynny’n gyfle i’w gydweithwyr a’i gyfeillion ddangos eu gwerthfawrogiad o’i gyfraniad i ysgolheictod Beiblaidd yn y Gymraeg. Treuliodd Owen ei flynyddoedd olaf mewn cartref gofal yn Llanfairpwll, a bu colli ei briod, Margaret, y llynedd, yn loes mawr iddo.

Bu Owen Evans farw ar 31 Hydref 2018 a chynhaliwyd gwasanaeth coffa iddo yng nghapel Ebeneser, Caernarfon, sef y capel lle cafodd ei ordeinio’n weinidog 67 mlynedd yn ôl.  Fel darlithydd, rhoes Owen do ar ôl to o fyfyrwyr yn drwm yn ei ddyled, a thrwy’r gwaith aruthrol a wnaeth gyda’r Beibl Cymraeg Newydd fe roes holl genedl y Cymry yn ei ddyled hefyd.

Yr Athro Eryl Wynn Davies DD FLSW