Yr Athro Peter Excell

Etholwyd: 2020

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Peirianneg

Athro Emeritws, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

Ysgrifennwyd yr ysgrif goffa ganlynol gan yr Athro Nigel John:

Mae’r Athro Emeritws Peter Excell wedi marw, yn dilyn ei frwydr gyda chanser. Dim ond yn ddiweddar y cafodd Peter ei ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac roedd yn edrych ymlaen at wneud cyfraniad sylweddol i’r Gymdeithas.  Dyfarnwyd y Gymrodoriaeth iddo yn dilyn dyfarnu Doethuriaeth Uwch iddo o Brifysgol Caer ym mis Mawrth, ac yn ei eiriau ei hun: “Mae cael fy ethol fel Cymrawd yn anrhydedd aruthrol, ond, fel gyda fy ngwobr doethuriaeth uwch diweddar, mae’n rhaid i mi ddiolch i’r timau gwych rwyf wedi bod yn gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd.”

Graddiodd Peter o Brifysgol Reading mewn Gwyddoniaeth Peirianneg, cyn mynd ymlaen i gwblhau PhD ym Mhrifysgol Bradford mewn Peirianneg Trydanol ac Electronig. Daeth yn Ddarlithydd cyn dod yn Uwch Ddarlithydd ac yn Ddarllenydd yn Bradford, a chafodd ei ddyrchafu’n Athro Electromagneteg Gymhwysol yn 1999. Yn 2007 symudodd i Brifysgol Glyndŵr fel Pennaeth yr Ysgol Gyfrifiadura a Chyfathrebu ac wedyn, fel Deon a Dirprwy Is-Ganghellor.

Ei brif faes ymchwil fu efelychiad cyfrifiadurol rhannau o systemau telathrebu, ac mae’n gorwedd ar y rhyngwyneb rhwng peirianneg a chyfrifiadura. Bu’n llwyddiannus iawn o ran sicrhau cyllid allanol i gefnogi’r ymchwil hon, a llwyddodd i ddarparu hyfforddiant i amryw lawer o Gynorthwywyr Ymchwil ôl-ddoethurol a myfyrwyr ymchwil.  Un cyflawniad pwysig oedd iddo ddatblygu dull hybrid, gan gysylltu modelau hafaliadau integral a differol, a olygai y gellid modelu ffôn a’r pen dynol yn gywir.  Roedd ei waith yn elwa o gydweithio rhyngwladol, ac roedd ganddo gysylltiadau ymchwil cryf â grwpiau yn UDA, Rwsia, Hong Kong, Bahrain ac Iran.

Bu’n gweithredu fel ymgynghorydd i nifer o gwmnïau olew mawr, gan ddarparu asesiadau o beryglon amledd radio i gymysgeddau fflamadwy a dyfeisiau ffrwydrol.  Ar gyfer IBM (UK) Ltd, rhoddodd gyngor ym maes cyffredinol cydnawsedd electromagnetig. Yn fwy diweddar, gofynnwyd am ei gyngor ar ddiogelwch systemau ffonau symudol.

Daeth yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Glyndŵr yn 2015, ond parhaodd yn weithgar o ran ei ddiddordebau ymchwil, ac fel llysgennad gwych ar gyfer y Brifysgol. Bu hefyd yn Athro Gwadd Anrhydeddus yng Nghyfadran Peirianneg a Gwybodeg ym Mhrifysgol Bradford.

Magwyd Peter yn Lloegr, ond roedd yn hanu o linach Gymreig. Roedd yn chwarae rôl reolaidd mewn gweithgareddau diwylliannol yng Nghymru, gan gynnwys Plygeiniau yng Nghanolbarth Cymru, a bu’n gadeirydd Cymdeithas Dewi Sant yn Swydd Efrog. Mae’n gadael ei wraig, Dianne, a’i blant Matthew a Charlotte.