Yr Athro Peter Groves
Cardiolegydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Athro Anrhydeddus, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Queen Mary Llundain
Mae’r Athro Groves wedi arwain arloesi clinigol ac wedi darparu arweinyddiaeth genedlaethol a lleol ym maes datblygu technoleg feddygol am fwy na deng mlynedd ar hugain. Mae wedi arwain mentrau academaidd ac ymchwil, wedi cadeirio pwyllgorau cynghori proffesiynol technoleg feddygol yn MHRA a NICE, ac mae wedi arwain a llunio esblygiad Technoleg Iechyd Cymru. Mae ei arbenigedd drwy gydol y cyfnod hwn wedi’i seilio ar safbwynt clinigwr, sy’n defnyddio technolegau meddygol newydd mewn ymarfer clinigol o ddydd i ddydd, ac sydd wedi arwain ar y gwaith o sefydlu datblygiadau gwasanaeth clinigol sy’n seiliedig ar dechnoleg.