Yr Athro Roiyah Saltus

Etholwyd: 2024

Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Anthropoleg, Cymdeithaseg, Gwaith Cymdeithasol, Polisi Cymdeithasol

Athro Cymdeithaseg, Prifysgol De Cymru

Gwyddonydd cymdeithasol ac ymchwilydd-ymgyrchu yw’r Athro Saltus sy’n gweithio ym maes anghydraddoldeb iechyd ar sail lle, penderfynyddion cymdeithasol iechyd a gofal iechyd, ac arloesi gwasanaethau a pholisi. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae hi wedi’i gosod ei hun ar y rhyngwyneb rhwng polisi cyhoeddus, ymarfer a darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol, a chymdeithas sifil. Y diben yw canfod atebion, arferion a synwyrusrwydd sy’n ceisio gwella bywydau pobl a chymunedau, gan ystyried a gwerthfawrogi syniadau’r gorffennol wrth ddatblygu llwybrau gwybodaeth newydd arloesol a gesglir o ystod o safbwyntiau rhanddeiliaid.