Ms Sally Roberts Jones

Etholwyd: 2019

Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Llên Saesneg Cymru

Wedi ymddeol: yn flaenorol Cymrawd Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol, Prifysgol Abertawe

Mae Sally Roberts Jones yn fardd, bywgraffydd, beirniad, hanesydd a llyfryddwr. Mor bell yn ôl ag y gall gofio, mae “wastad wedi ysgrifennu straeon, cerddi a dramâu bach”. Fe’i ganwyd yn Llundain, ond Cymro oedd ei thad, ac mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i bywyd yng Nghymru, yn y gogledd i ddechrau, lle’r astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Yn dilyn hyn, astudiodd lyfrgellyddiaeth yn y North Western Polytechnic yn Llundain ond dychwelodd i Gymru yn 1967 yn Llyfrgellydd Cyfeiriol ym Mhort Talbot, lle mae’n dal i fyw. Mae’n cofio bod “cariad at lyfrau ac, ar y dechrau, rhywfaint o swildod oedd yn golygu y byddai gyrfa fel athro’n annhebygol, wedi fy arwain at lyfrgellyddiaeth.”

Am rhagor o wybodaeth, ewch i: cymdeithasddysgedig.cymru/proffil-cymrodyr-2-mrs-sally-roberts-jones/