Yr Athro Stephan Collishaw

Etholwyd: 2024

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Iechyd Meddwl - Plant a'r Glasoed

Athro, Yr Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd

Mae ymchwil yr Athro Collishaw yn edrych ar ddatblygiad dynol yn ystod cwrs bywyd, er mwyn astudio problemau iechyd meddwl cyffredin, gan gynnwys iselder a gorbryder. Mae’n casglu data parhaus gan grwpiau poblogaeth, i astudio sut mae problemau iechyd meddwl yn datblygu ar draws plentyndod, glasoed ac i fod yn oedolyn.

Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn ffyrdd o hyrwyddo gwytnwch iechyd meddwl mewn plant risg uchel. Mae ei ymchwil yn archwilio newid yn lefel y boblogaeth yn iechyd meddwl pobl ifanc, ac yn profi esboniadau ar gyfer y cynnydd mewn gorbryder ac iselder ymysg pobl ifanc.