Yr Athro Thomas O’Loughlin
Athro Emeritws Diwinyddiaeth Hanesyddol, Prifysgol Nottingham
Mae’r Athro O’Loughlin yn archwilio testunau cynnar a chanoloesol, gan geisio deall eu darlun crefyddol o’r byd. Mae’n archwilio’r testunau hynny gyda’r rhagdybiaeth bod crefydd bob amser yn gyfnewidiol o fewn traddodiadau, yn hytrach na’i bod yn statig neu’n ymylol. Mae wedi gweithio i ddatblygu (o fewn diwinyddiaeth) ymwybyddiaeth o ddiwinyddiaeth hanesyddol, ac (o fewn hanes) hanes diwinyddiaeth. Meithrin y dull rhyngddisgyblaethol hwn fu ei gyflawniad mwyaf, a ddatblygwyd drwy addysgu, ysgrifennu ac arweinyddiaeth olygyddol. Mae’r gyfres Studia Traditionis Theologiae, a sylfaenwyd ganddo ac y mae’n ei chyfarwyddo bellach, wedi ymrwymo i’r nod hwn. Mae 53 o gyfrolau wedi’u cyhoeddi bellach, a thua 13 arall yn y wasg gyda Brepols.