William D. Phillips

Etholwyd: 2024

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol:

Mae’r enillydd gwobr Nobel, yr Athro Phillips, wedi cael effaith sylweddol ar ddatblygiad ffiseg atomig dros y ddeugain mlynedd ddiwethaf. Ef oedd arloeswr defnyddio laserau i oeri atomau, datblygiad sydd wedi chwyldroi galluoedd ar gyfer ymchwil hanfodol a chymwysiadau ym maes Ffiseg a thu hwnt.

Mae’n aelod o Academi Celfyddydau a Gwyddorau America ac Academi Wyddorau Genedlaethol UDA. Ar ôl ennill y Wobr Nobel ym maes Ffiseg yn 1997, cafodd hefyd wobr ‘US Presidential Rank’ yn 2005, a Gwobr Gwasanaeth i America yn 2006.

Mae cefndir teuluol yr Athro Phillips yn cynnwys Cymru, ac mae’n eithriadol o falch o’i gysylltiadau â’r genedl.