Professor R. Geraint Gruffydd

Etholwyd: 2010 Cymrodyr Cychwynnol

Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Cymraeg, Diwylliant Cymru, Llenyddiaeth Gymraeg

Ar un olwg cafodd Geraint Gruffydd fwy nag un yrfa, yn athro coleg, yn bennaeth sefydliad cenedlaethol, yn gyfarwyddwr canolfan ychwil, swyddi a gyflawnodd gyda graen, ond nid oes amheuaeth nad fel ysgolhaig ac ymchwilydd y câi ei foddhad pennaf.  Dros y blynyddoedd cyhoeddodd yn doreithiog ar lenorion a llenyddiaeth pob cyfnod yn hanes llenyddiaeth Gymraeg,  ar weithiau’r brif ffrwd a hefyd ar ysgrifenwyr llai adnabyddus a’u cynnyrch gan ddwyn llawer gem fach i olau dydd. Yr oedd ganddo gof gafaelgar ac nid anghofiai ddim a ddarllenai neu a ddarganfyddai, ond gyda  hynny meddai ar y ddawn i ganfod cysylltiadau newydd, ac weithiau annisgwyl, gyda’r  canlyniad fod darllen ei waith bob amser yn brofiad cyffrous sy’n agor y meddwl. Arwydd o’i ymlyniad wrth ddelfrydau ymchwil oedd ei barch at ei gynulleidfa. Ble bynnag y cyhoeddai ei waith ‒ cyfnodolyn academaidd, trafodion cymdeithas, cylchgrawn llenyddol, Y Cylchgrawn Efengylaidd,  Y Casglwr a llawer cyfrwng arall ‒  nodweddir y cyfan gan  yr un arddull gymen olau a’r un trylwyredd ymchwil. Yr oedd ysgolheictod yn alwad, yn ogystal ag yn alwedigaeth, iddo.

Cafodd ei eni, 9 Mehefin 1928, yn Egryn, tŷ hynafol yn Nhal-y- bont, Ardudwy, cartref rhieni’r ysgolhaig gwamal hwnnw o’r ddeunawfed ganif, William Owen [Pughe], ond er mor sylfaenol y gwahaniaeth crebwyll ysgolheigaidd rhwng Geraint ac yntau, eto mewn rhyw ffordd ddirgel bron, ymglywai Geraint â galwad  ymchwil ac ysgolheictod yn Egryn a mawrygai mai yno y bu dechrau’r daith.

Yr oedd mam Geraint yn raddedig mewn Lladin a Chymraeg, a’i dad, Moses Griffith, yn ymgynghorydd amaethyddol. Ymhen ychydig flynyddoedd symudodd y teulu i fferm ymchwil arbrofol Pwll Peirian, Cwm Ystwyth, yng ngogledd Ceredigion ac yno y magwyd ef. Os ydoedd yn fan diarffordd yn ddaearyddol, nid felly yn gymdeithasol. Yr oedd Moses Griffith yn un o aelodau sylfaenol Plaid Cymru a’i Thrysorydd cyntaf ac amryw o wŷr blaenllaw  Cymru yn galw fel y daeth Geraint yn gyfarwydd yn bur gynnar â chlywed sgwrsio deallus am nifer o bynciau, nid rhai gwleidyddol yn unig ond rhai llenyddol, cymdeithasol  a chrefyddol. Ni chafodd Saunders Lewis gyfaill mwy cymwynasgar na Moses Griffith yn ei flynyddoedd blin a mawrygai Geraint y cyswllt â’r llenor a’r meddyliwr hwnnw. Ef a benodwyd yn ysgutor llenyddol Saunders Lewis.

 

O’r ysgol leol aeth Geraint i ysgol ramadeg Ardwyn yn Aberystwyth ac yna, yn1941, i ysgol Gordonstoun a oedd wedi’i hail-leoli ar y  pryd yn Llandinam. Oddi yno aeth i goleg Bangor yn 1945 a’i fryd ar wneud gradd yn y Saesneg. Nid oedd Gordonstoun yn cynnig cwrs yn y Gymraeg ac felly disgwyliai Geraint ymgymryd â chwrs ‘inters’ Cymraeg yn y coleg, ond oherwydd gwrthdaro (ffodus neu ragluniaethol) yn yr amserlen gosodwyd ef yn y dosbarth uwch lle y cafodd ei ysbrydoli gan driawd o athrawon, Ifor Willams,Thomas Parry a Caerwyn Williams. Ymfalchïai Geraint ei fod yn  nosbarth anrhydedd olaf  Ifor Wiliams a hoffai adrodd ei atgofion am achlysur y ddarlith olaf honno. Wedi graddio, troi am Rydychen i ymchwilio ar gyfer ei ddoethuriaeth.

Yr oedd yn cael ei dynnu at fwy nag un pwnc. Un oedd cyfraniad yr athrylith amryddawn hwnnw, Edward Lhwyd, a hawdd deall ei apêl i Geraint. Un arall oedd Thomas Jones o Ddinbych, y llenor a’r ysgolhaig Methodistaidd, ac nid anodd deall pam.Ond y pwnc a aeth â’i fryd oedd rhyddiaith grefyddol  Gymraeg o ddechrau teyrnasiad Elisabeth I hyd yr Adferiad. Yr oedd yn faes heriol a oedd yn cynnwys holl agweddau’r  Dadeni Dysg a’r dyneiddwyr, a  gweithiau’r Diwygwyr Protestannaidd, y Gwrth-ddiwygiad a’r Piwritaniaid cynnar; hawliai afael ar ddiwinyddiaeth (a diddordeb ynddi) cyfnod o ymrafael crefyddol, meistrolaeth ar hanes dyrys syniadau a gwleidyddiaeth y blynyddoedd hyn, a’r gallu i ymateb yn llenyddol i’r holl ysgrifennu hyn. Yn ymarferol rhaid hefyd fyddai ennill yr arfau llyfryddol cymwys. Agorai holl lenyddiaeth fodern gynnar y Gymraeg o’i flaen a blodeuodd ysgolheictod Geraint mewn cyhoeddiadau dros y blynyddoedd ar y Dadeni Dysg, ei awduron a’u llyfrau, ac yn arbennig ar gamp William Morgan a Beibl 1588.

Ei swydd gyntaf oedd ar staff olygyddol Geiradur Prifysgol Cymru a’i leoliad yn  y Llyfrgell Genedlaethol yn rhoi rhwydd hynt i Geraint, ymhob munud sbâr, i archwilio cyfoeth y llawysgrifau Cymraeg a chreu cronfa ddihysbydd o wybodaeth i dynnu ohoni yn ôl yr angen. Yn ei dro bu Geraint yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng ngholeg Bangor, yn Athro yn Aberystwyth,yn Llyfrgellydd  Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn Gyfarwyddwr llawnamser cyntaf Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth. Meddai ar y gallu i feistroli maes newydd yn drwyadl ac yna i ymchwilio ynddo o’r newydd gan gynnig astudiaeth destunol fanwl a diogel neu ddehongliad gwreiddiol treiddgar. Ym Mangor troes at Dafydd ap Gwilym a’r cywyddwyr, yn Aberystwyth at hengerdd a ‘cherddi’r bwlch’, yn y Ganolfan at feirdd y tywysogion, a chyfoethogi’r astudiaeth o’r meysydd hyn  bob  un; ond ni phallodd ffrwd y cyhoeddiadau eraill, yn erthyglau ar bob cyfnod yn hanes llên Cymru, beirniadaeth lenyddol, ysgrifau coffa i gyfeillion ac yn rhy anaml o lawer, ambell gerdd;  yn ogystal â hyn oll cafwyd ganddo ysgrifau lle y rhannai ei argyhoeddiad Cristnogol dwfn.

Cafodd Geraint brofiad crefyddol dwys pan oedd yn fyfyriwr ym Mangor, profiad a ddyfnhawyd yn Rhydychen; yng Nghymru bu’n aelod o’r Mudiad Efengylaidd o’r dechrau un. Arddelai ei ffydd yn llawen heb fod hynny’n cyfyngu dim ar ei ymneud â phobl na’i ysgolheictod. Byddai ef wedi dal mai cyfoethogi ei fywyd a’i waith a wnâi ei grefydd. Dyn pobl ydoedd, yn wylaidd ac yn gyson foneddigaidd ac ystyrlon, yn gymodlon wrth natur ac yn gredwr gweithredol mewn cydweithio gan annog a symbylu eraill i gyfrannu.

Estynnwn ein cydymdeimlad â’i  weddw Luned, a’r teulu,Siân, Rhun a Pyrs.

Brynley Roberts FLSW