Cryfhau cydweithredu, cyfnewid gwybodaeth a dysgu rhwng Cymru ac Iwerddon;
Cefnogi ymchwil gydweithredol a rhyngddisgyblaethol
Annog cychwyn partneriaethau newydd ac/neu ddatblygu partneriaethau presennol, gan arwain o bosib at gynigion arloesol yn y dyfodol a fydd yn dod â disgyblaethau a chenhedloedd ynghyd.
Cyfrannu at drafodaethau polisi yn Iwerddon a Chymru yn y maes thematig penodedig.
Mae’r Cynllun Peilot hwn yn gwahodd ceisiadau sy’n trafod thema eang “Diwylliant, Iaith a/neu Dreftadaeth’, gyda ffocws neilltuol ar ieithoedd brodorol, lleiafrifol a llai eu defnydd, yn unol ag arweinyddiaeth Cymru yn y maes hwn o fewn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. Mae’r thema hon hefyd yn cyd-fynd â thema Cymunedau a Diwylliant – thema â blaenoriaeth yn Fframwaith Môr Iwerydd Cymru Ystwyth, yn ogystal â Chyd-ddatganiad a Chyd-gynllun Gweithredu Cymru Iwerddon 2021./n
Y Cyd-Ymgeisydd
TGall y prosiect adeiladu ar gydweithio rhyngwladol sy’n bodoli eisoes rhwng y ddwy wlad, neu ddangos cynlluniau ar gyfer datblygu rhwydweithiau cydweithredu newydd.
Rhagwelir y bydd pob prosiect yn arwain at ddatblygu rhwydwaith, neu amlinelliad o gysyniad ar gyfer cynnig prosiect grant yn y maes a archwilir er mwyn creu canlyniadau gweladwy a fydd o werth i’r gymuned academaidd a’r cyhoedd ar raddfa ehangach.
Er y bydd dyfarniadau ar agor i unigolion ym mhob cam o’u gyrfa ac i bob SAU yng Nghymru ac Iwerddon, anogwn geisiadau naill ai wedi’u harwain gan ymchwilwyr gyrfa gynnar (YGGwyr) neu sy’n cynnwys YGGwyr fel cyfranogwyr gweithredol o fewn y prosiect a gynigir, a byddwn yn hyrwyddo’r cyfle drwy ein Rhwydwaith YGGwyr a Gyllidir gan CCAUC.
Nid yw’r grant yn gymwys ar gyfer gweithgareddau a fyddai wedi cael eu cynnal beth bynnag (er enghraifft, yn gysylltiedig â chynhadledd a drefnwyd eisoes).
Yn ogystal â’r prif ofynion cyfreithiol, dylai ymgeiswyr ystyried sut y byddant yn mynd i’r afael ag anghenion penodol yn gysylltiedig ag ATCh o’r cychwyn cyntaf, yn unol ag ymrwymiad y Gymdeithas o ATCh
Bydd yr alwad am gynigion yn agor ar 21 Awst ac yn cau ar 30 Medi am 4.00 pm.
Am fanylion llawn y cynllun, ymgynghorwch â’n canllaw
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Cathy Stroemer yn ResearcherDevelopment@lsw.wales.ac.uk.