Ar-lein

ECR Digwyddiad: ‘Creating Impact – What you need to know’

18 Hyd, 2023:

2:30 pm -

18 Hyd, 2023:

4:30 pm

Creu effaith o ymchwil yn y Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol

Sut all cydweithredu â mentrau a thimau amlddisgyblaethol helpu ymchwilwyr i greu effaith o’ch ymchwil? Sut all ymchwilwyr greu llwybr effeithiol at fasnacheiddio syniadau academaidd? Dyma rai o’r cwestiynau y bydd ein panelwyr yn mynd i’r afael â nhw yn ein gweminar nesaf. Bydd y panel yn cynnwys ymchwilwyr o bedair o Brifysgolion Cymru sydd ar wahanol gamau o’u gyrfaoedd.

Mae’r sesiynau wedi’u hanelu at ymchwilwyr sy’n dymuno gwrando ar straeon llwyddiannus o greu effaith ymchwil. Bydd mynychwyr yn dysgu sut i wneud eu gwaith yn weladwy i bartneriaid y tu hwnt i’r byd academaidd, sut i gael eu sylw, a myfyrio ar sut y gall arloesedd ymchwil yrru eu gyrfa fel ECR ym meysydd y Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.

Siaradwyr gwadd:

  • Forging Collaborations for Research with Impact

Dr Shubha Sreenivas CPsychol, FHEA | Arweinydd Rhaglen – MSc Seicoleg (Trosi); Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg (Seicoleg Fiolegol), Cyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd, Adran Seicoleg, Prifysgol Wrecsam.

  • HUG by LAUGH, from Idea to University Spin-Out

Aidan Taylor | Darlithydd mewn Dylunio Cyfrifiadurol Cyswllt Academaidd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

  • “Get me out of here! And into there”

Athro Louisa Huxtable-Thomas | Arweinydd Menter, Partneriaethau ac Arloesi Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Prifysgol Abertawe.

  • Commercialising Ideas in Higher Education: The Harmonious Entrepreneurship Society Journey

Dr Felicity Healey-Benson | Prif Ymchwilydd IICED a Hyrwyddwr Dysgu Entrepreneuraidd, Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Bydd y weminar yn cael ei chadeirio gan Athro Jonathan Bradbury (FLSW), Cadair Bersonol, Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, Prifysgol Abertawe.

Ymgymerodd Jonathan â’i ymchwil ddoethurol yn Ysgol Hanes Prifysgol Bryste. Roedd yn meddu ar gymrodoriaeth ymchwil ym Mryste cyn cynnal darlithoedd ym Mhrifysgolion Llundain ac Warwig. Sicrhaodd swydd barhaol ym Mhrifysgol Abertawe yn 1992, a dyfarnwyd cadair bersonol iddo yn 2010. Ef oedd Dirprwy Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol, 2011-2016, a Chyfarwyddwr Ymchwil yng Ngholeg y Celfyddydau a Dyniaethau 2017-21. Mae wedi bod yn Ddeon Cyswllt yn y maes Ymchwil, Arloesedd ac Effaith yn y Gyfadran Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol ym Prifysgol Abertawe ers 2021. Mae ei waith ymchwil wedi canolbwyntio’n bennaf ar feysydd datganoli’r DU a gwleidyddiaeth diriogaethol, Llywodraeth leol, pleidiau, cynrychiolaeth a pholisi cyhoeddus.