Ar-lein

YCG Gweminar: ‘Inclusive Collaborative Research’

20 Maw, 2024:

10:00 am -

20 Maw, 2024:

11:30 am

Bydd y sesiwn yn trafod sut all ymchwilwyr gynnwys arferion cynhwysol yn eu hymchwil eu hunain a’r rhwystrau posibl y gall ymchwilwyr eu hwynebu wrth gysylltu â chymunedau y tu hwnt i’r byd academaidd, ac ymwneud â nhw. Gwahoddir y rhai a fydd yn bresennol i fyfyrio ar eu gobeithion a’u hofnau wrth geisio â sefydlu gwaith ar y cyd â chymunedau ac ystyried goblygiadau’r rhain ar wahanol adegau o’r broses ymgysylltu.

Ymhlith y pynciau a drafodir gan y llefarwyr fydd buddion hyrwyddo ymchwil sy’n seiliedig ar le ac sydd wedi’i greu ar y cyd, anfanteision integreiddio’r math hwn o fethodolegau, ac argymhellion ar gyfer llywio’r anawsterau hyn.

Mae’r astudiaethau achos a fydd yn cael eu trafod yn y weminar yn cynnwys yr astudiaeth ACTIF – Gweithredol, Cysylltiedig, Ymgysylltiedig gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd, y gwaith ymchwil sydd wedi’i ysgogi gan effaith a gefnogir gan y Swyddfa Ymchwil Heriau Lleol ym Mhrifysgol Abertawe, a’r prosiect a ariennir gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn canolbwyntio ar Feicio Cynhwysol yng Nghymru dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.

Read the full abstracts and speakers’ biographies here. 

Siaradwyr gwadd:

  • Dr Jennifer Wolowic, Brif Arweinydd Canolfan Ddeialog, Prifysgol Aberystwyth
  • Dr Tom Avery, Swyddog Ymchwil, Swyddfa Ymchwil Heriau Lleol, Prifysgol Abertawe
  • Athro Sin Yi Cheung (FLSW), Athro Cymdeithaseg ac yn Gyd-gyfarwyddwr Ymchwil yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Cymrawd Ymchwil, Canolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol Oedolion, Prifysgol Caerdydd
  • Dr Sofia Vougioukalou, Cymrawd Ymchwil, Canolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol Oedolion, Prifysgol Caerdydd
  • Dr Zsofia Szekeres, Dr Zsofia Szekeres, Networking Co-lead at the Centre for Health, Activity and Wellbeing Research (CAWR), Research Associate, Cardiff Metropolitan University.

Bydd y weminar yn cael ei chadeirio gan Athro Rick Delbridge (FLSW), Athro Dadansoddi Sefydliadol yn Ysgol Fusnes Caerdydd, cyd-gynullydd Canolfan Ymchwil Polisi Arloesedd.

Cynhelir y gweithdy hwn yn uniaith Saesneg