Ar-lein

Gweminar YGC: Beth Sy’n Gwneud Mentor Da?

16 Mai, 2024:

12:00 pm -

1:00 pm

Mae’r gweminar un-awr hon yn cyflwyno’r cyfranogwyr i rôl mentoriaeth academaidd trwy archwilio’r cwestiwn ‘Beth sy’n gwneud mentor dda?’. Trwy drafodaethau diddorol a sesiwn holi ac ateb, a gyflwynir gan fentoriaid profiadol, bydd mynychwyr yn cael eu cyflwyno i nodweddion mentor da ac yn derbyn arweiniad ar sut i feithrin perthnasoedd llwyddiannus ac effeithiol gyda’r bobl y maent yn eu mentora. Bydd y gweminar hefyd yn archwilio’r heriau y gall mentoriaid ddod ar eu traws ac yn cynnig strategaethau ymarferol i’w goresgyn. Erbyn diwedd y gweminar, bydd gan fynychwyr gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd mentoriaeth dda mewn lleoliadau academaidd a byddant wedi derbyn arweiniad defnyddiol i’w cefnogi i ddod yn fentoriaid hyderus.

Trefnir y sesiwn ar y cyd gan Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Phwyllgor Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Prifysgol Abertawe ar gyfer Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd.

Siaradwyr Gwadd:

  • Yr Athro Helen Fulton FLSW FRSA FSA, Athro Llenyddiaeth Ganoloesol, Prifysgol Bryste
  • Dr Katherine Chapman PGCert FHEA, Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe.