Ar-lein

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2028 – Beth a pham?

14 Medi, 2023:

10:30 am -

14 Medi, 2023:

12:00 pm

Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY) yw system y DU ar gyfer asesu ansawdd yr ymchwil o fewn sefydliadau Addysg Uwch y DU, a ddatblygwyd gan y pedwar corff ariannu addysg uwch yn y DU. Cyhoeddwyd canlyniadau’r ymarfer ddiwethaf yn 2021. Mae’r cynlluniau ar gyfer FfRhY 2028 eisoes ar y gweill, ac mae’r penderfyniadau cychwynnol parthed dyluniad lefel uchel yr ymarfer asesu nesaf ar hyn o bryd dan ymgynghoriad.

Yn y weminar hon, byddwn yn ystyried beth yn union yw’r FfRhY, pam ei fod yn bwysig, a sut y gall Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar gymryd rhan yn yr ymarfer asesu nesaf. Bydd cyfle i drafod sut mae’r FfRhY yn gysylltiedig â datblygiad gyrfa Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, yr hyn mae cymryd rhan yn y FfRhY yn ei olygu fel Ymchwilydd Gyrfa Gynnar, ac fel arweinwyr y dyfodol yn y sector ymchwil ac addysg uwch, pa ddiwylliannau ac amgylcheddau ymchwil all y FfRhY eu cymell. Gall fod yn syniad i fynychwyr ystyried sut fydd y FfRhY yn cyflwyno cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith Gymraeg ledled Cymru fel rhan o’r broses o gydnabod rhagoriaeth mewn ymchwil, yn ogystal â chyfraniad ymchwil cyfrwng y Gymraeg, a thrin y Gymraeg yn gyfartal â’r Saesneg.

Efallai yr hoffech ystyried yr heriau y mae Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar yn eu hwynebu o ymarfer asesu ymchwil cenedlaethol, a sut allwch chi, fel Ymchwilydd Gyrfa Gynnar, gyfrannu tuag at gyflwyniad FfRhY eich sefydliad? A ydych yn rhagweld y bydd y ffordd y mae’r FfRhY yn mesur rhagoriaeth yn arwain at unrhyw effeithiau niweidiol ar ymchwilwyr sy’n datblygu?

Bydd yr Athro Richard Winpenny o Brifysgol Manceinion a Dr Hayley Moulding o CCAUC yn arwain y sesiwn, a ddilynir gan sesiwn holi ac ateb gan y mynychwyr. Yn rhan o’r sesiwn holi ac ateb bydd ystafell drafod er mwyn ystyried effaith y FfRhY ar siaradwyr Cymraeg.