Ar-lein

Gweithdy ar-lein: “Marathon nid sbrint: Datblygu eich gyrfa fel ymchwilydd a chael cydbwysedd bywyd/gwaith iach”

21 Medi, 2023:

10:30 am -

21 Medi, 2023:

11:30 am

Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno strategaethau ar gyfer datblygu eich gyrfa fel ymchwilydd gyda phwyslais ar dwf a chynaliadwyedd tymor hir. Wrth ei gwraidd cydnabyddir bod gweithio yn y sector prifysgol yn cyflwyno pwysau a heriau unigryw, ond hefyd gyfleoedd unigryw i ddilyn llwybrau hyblyg ac amrywiol i lwyddiant. Mae datblygu gyrfa academaidd lwyddiannus wrth gynnal cydbwysedd bywyd/gwaith iach yn farathon, nid sbrint. Yn gyntaf, bydd arnoch angen yr offer i gynnal rheolaeth o’ch amser. Yn ail, mae’n ymwneud â chynllunio a sicrhau bod eich prosiectau tymor hirach yn dwyn ffrwyth. Yn drydydd, mae’n ymwneud â datblygu dulliau a rheoli perthnasoedd sy’n adeiladu ar eich cryfderau chi. Y olaf, mae gyrfa academaidd gynaliadwy yn gofyn am fod yn agored i newidiadau anorfod yn y sector, eich amgylchedd gwaith lleol, eich dyheadau chi.

Bydd y sesiwn hon yn cynnwys trafodaethau lle gall cyfranwyr rannu eu strategaethau a phrofiadau eu hunain, gyda golwg ar ennill dealltwriaeth o heriau a dulliau cyffredin ar draws y bwrdd.

Hwylusydd:

Yr Athro Karin Wahl-Jorgensen, Deon Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd (FLSW)

Karin Wahl-Jorgensen yw Deon Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn y swydd honno, mae’n gweithio ar fentrau i ddatblygu amgylchedd mwy creadigol, cydweithredol a chynhwysol i ymchwilwyr ar draws y sefydliad. Mae hi hefyd yn Athro yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant, lle bu’n Gyfarwyddwr Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil rhwng 2012 a 2020. Mae ganddi radd PhD o Brifysgol Stanford UDA a doethuriaeth er anrhydedd o Brifysgol Roskilde, Denmarc. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar newyddiaduraeth a dinasyddiaeth, ac mae hi’n awdur neu wedi golygu deg o lyfrau, a thros 80 o erthyglau a 45 o benodau mewn llyfrau.