Yn bersonol

Creu Argraff: Dathliad o ymchwil Cymru (REF2021)

9 Tach, 2023:

4:30 pm -

9 Tach, 2023:

6:00 pm

Ymunwch a ni am ddigwyddiad lansio arbennig, yn dathlu effaith ymchwil prifysgolion Cymru ar gymdeithas, wrth i ni drafod adroddiad gan Goleg King’s Llundain sy’n amlinellu dadansoddiad o effaith 280 astudiaeth achos o Gymru.

Mae’r digwyddiad wedi ei deilwra i’r rheini sydd am ganfod prif ganfyddiadau’r adroddiad ar ffurf cyflwyniadau byr a treiddgar bydd yn arddangos rhai o’r ffyrdd y mae ymchwil yn cael effaith drawsnewidiol ar ystod eang o bobl a sectorau ar draws amrywiaeth eang o bynciau. Bydd y digwyddiad yn darparu mewnwelediadau arbennig bydd yn taflu golau ar effaith cydweithredol a thrawsnewidiol ymchwil Prifysgolion Cymru sy’n helpu i newid bywydau ac i ailffurfio cymdeithas.