Ar-lein

Seremoni Medalau 2023

26 Hyd, 2023:

6:00 pm -

26 Hyd, 2023:

8:00 pm

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn hyrwyddo ymchwil drwy gydnabod y rheini sy’n cyflawni llwyddiannau nodedig yn eu gyrfa, gan gynnwys y rheini sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol ar ddechrau eu gyrfa.

Wedi’i noddi gan Mark Drakeford AS, mae’r cyflwynwyr eleni yn cynnwys y Foneddiges Sue Ion (HONFLSW), Cadeirydd Bwrdd Cynghori ar Ymchwil Arloesedd Niwclear y DU a chyfrannwr selog yn fyd-eang ym maes polisi ynni.  Bydd cyfle i gwrdd a sgwrsio gyda’r holl fynychwyr ar ddiwedd y digwyddiad tra bydd diodydd a canapes yn cael eu gweini.  

Dyma gyfle i chi ganfod yr ystod amrywiol o waith ymchwil a gynhelir yng Nghymru, a chyfarfod pobl sydd ar y rheng flaen o ran cynnal yr ymchwil honno, gan ddysgu am yr effaith maent yn ei gael ar hyd a lled Cymru, a’r byd yn ehangach. Bydd yn rhywle i chi allu cyfarfod er mwyn cydlynu a gweithredu newid.   Mae ein Medal Hugh Owen yn dathlu ymchwil rhagorol ym myd addysg, tra bod Medal Frances Hoggan yn cydnabod ymchwilwyr eithriadol o fenywod ym maes STEMM. Dyfernir Medal Menelaus am ragoriaeth mewn peirianneg a thechnoleg. Mae Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar, o Gymru neu yng Nghymru, yn derbyn un o dair Medal Dillwyn: ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth; Dyniaethau a’r Celfyddydau Creadigol; neu’r Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Busnes.

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal gyda chefnogaeth gan Brifysgol Caerdydd.