Yn bersonol

Cynhadledd AESIS 2023

18 Hyd, 2023:

20 Hyd, 2023:

Beth yw effaith y gwyddorau cymdeithasol, y dyniaethau a’r celfyddydau ar gymdeithas? Bydd y pwnc pwysig hwn yn cael ei archwilio yng Nghynhadledd AESIS 2023.

Rydym yn cefnogi cynhadledd eleni yng Nghaerdydd ar 18-20 Hydref. Bydd gweithwyr proffesiynol o bob cwr o’r byd, gan gynnwys nifer o’n Cymrodyr, yn dod at ei gilydd i drafod, ymhlith llawer o bethau eraill, effaith ranbarthol i fyd-eang, ‘trawsddisgyblaeth’, ac ymgysylltu â busnes.

Mae’r rhestr o sesiynau yng Nghynhadledd AESIS 2023 yn dangos pam y bydd hwn yn ddigwyddiad hanfodol i unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd y mae’r gwyddorau cymdeithasol, y celfyddydau a’r dyniaethau yn cael effaith ar gymdeithas.