Yr Adolygiad Diamond

Download Publication

COVER_Page_1

Cyflwynwyd adroddiad y Gymdeithas, dan arweiniad yr Athro Robin Williams FLSW, i Banel Adolygu Llywodraeth Cymru ar 8 Ionawr. Gwahoddwyd y Gymdeithas i gyfarfod y Panel Adolygu ar 22 Ionawr i siarad am y cyflwyniad a darparu tystiolaeth ychwanegol. Roedd y Llywydd, y Prif Weithredwr a’r Athro Robin Williams yn bresennol.

Roedd cyflwyniad y Gymdeithas yn amlygu pwysigrwydd darparu cymorth digonol i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru lle bynnag y maent yn dewis astudio, a mynd i’r afael yr un pryd â thangyllido hanesyddol y sector AU yng Nghymru. Er mwyn sicrhau cydraddoldeb, cynigiodd y Gymdeithas y dylid cyfyngu’r cymorth grant ffioedd i’r rheini â’r angen mwyaf. Byddai’r cyfryw gyllid a gâi ei ryddhau dan y cynnig hwn ar gael i ddarparu cyllid uniongyrchol i brifysgolion yng Nghymru, i’w helpu i gau’r bwlch cyllido.

Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn gan Banel Diamond i gyflwyniad y Gymdeithas ac mae adborth dilynol gan HEFCW a Llywodraeth Cymru wedi dangos iddo gael derbyniad da.