Ymateb y Gymdeithas i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Strategaeth Arloesi Cymru

Download Publication

Mae’n rhaid i Gymru adrodd stori glir am arloesi yng Nghymru, meddai Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Daw’r sylwadau yn sgil ymateb y Gymdeithas i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Strategaeth Arloesi Cymru.

Un o gryfderau cenhedloedd bychain yw’r gallu i randdeiliaid allweddol weithredu mewn ffordd gydlynol. Mae’n rhaid i Strategaeth Arloesi Cymru ddangos sut y gallai cyfranogwyr y tu hwnt i Lywodraeth Cymru gyfrannu at yr agenda cenedlaethol hwn.

Mae’r Gymdeithas yn tynnu sylw at botensial Cymru o weithredu ymagwedd ‘comin arloesedd’. Mae hyn yn gallu dod ag unigolion, sefydliadau, a sefydliadau sydd wedi’u datgysylltu o bob rhan o’r sectorau preifat a chyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd.

Mae ein hymateb yn pwysleisio pwysigrwydd prifysgolion Cymru yn yr ecosystem arloesi hefyd. Rydym yn pwysleisio rôl y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd i gefnogi’r sector i ddatblygu’r gallu i gyflawni ymchwil ac arloesedd.