Charlotte Husnjak

Mae Charlotte yw Cynorthwyydd Digwyddiadau’r Gymdeithas. Mae hi’n helpu i drefnu ac i hwyluso ein digwyddiadau ar-lein ac mewn person. Mae Charlotte yn gweithio’n agos gyda’r Pennaeth Polisïau Cyhoeddus i gyflwyno digwyddiadau ar gyfer y Gymrodoriaeth a chynulleidfaoedd allanol, ac mae hi hefyd yn cefnogi ein gwaith cyfathrebu.

Cyn ymuno â’r Gymdeithas yn 2025, treuliodd Charlotte ddwy flynedd yn Tokyo fel athrawes iaith gynorthwyol gyda Rhaglen Ysgolion ac Addysg Japan. Fe wnaeth hi wirfoddoli yno hefyd gydag Amnesty International, gan arwain ar ddigwyddiadau rhyngwladol ac arwain gŵyl ffilmiau cyntaf y sefydliad yn Japan. Cyn hynny, bu Charlotte yn gweithio yn Nwyrain Llundain hefyd fel Uwch Swyddog Mynediad Prifysgol / Arweinydd Digwyddiadau ar gyfer The Access Project yng Nghaergrawnt fel gwirfoddolwr Nightline, ac mewn stiwdio crochenwaith yn ei phentref genedigol yng Nghaerwedros.

Mae Charlotte yn gyn fyfyrwraig Prydau Ysgol am Ddim, ac mae ganddi raddau BA ac MPhil mewn Addysg o Goleg Homerton, Prifysgol Caergrawnt, lle bu’n arbenigo mewn Llenyddiaeth Plant a Chymdeithaseg, ac enillodd Wobr Horobin 2020. Yn 2021, cyflwynodd ei hymchwil mewn cynadleddau rhyngwladol fel Ysgolhaig Siarter Homerton, a sefydlodd gynllun mentora annibynnol i gefnogi myfyrwyr o Gymru yn ystod COVID-19, oedd yn gobeithio mynd i Oxbridge.

Ganwyd Charlotte yn Slough ond fe’i magwyd yng nghanol gwyllt Gorllewin Cymru. Cafodd ei haddysgu yn Saesneg a Chymraeg. Mae hi’n ymrwymedig i wella ei Chymraeg trwy wersi wythnosol a hunan-astudio.  Yn ei hamser sbâr, mae Charlotte yn artist y gair llafar ac yn awdur, sydd yn canolbwyntio ar fytholeg Gymreig, realiti, a dynoliaeth. Mae hi hefyd yn mwynhau nofio yn y gwyllt a gweu ychydig ar lefel amateur.

Gallwch gysylltu â Charlotte drwy e-bostio chusnjak@lsw.wales.ac.uk. Os oes gennych ymholiadau sydd yn ymwneud â digwyddiadau, e-bostiwch events@lsw.wales.ac.uk.

yn ôl i'r brig