Sut mae dod yn Gymrawd?

Bob blwyddyn, drwy broses ethol drwyadl, bydd Cymrodyr newydd yn cael eu hychwanegu i’r Gymdeithas. Cyflwynir enwebiadau gan Gymrodyr presennol, sy’n cynnig unigolion i’w hystyried.

Bydd unigolion sydd â diddordeb mewn cael eu henwebu (enwebeion) yn cydweithio â Chymrawd (cynigydd) i lenwi ffurflenni enwebu’r Gymrodoriaeth.

Wedi hynny bydd pwyllgor o Gymrodyr o faes tebyg yn craffu ar bob enwebiad ac yn argymell pwy y dylid eu hethol. Caiff yr enwebeion a argymhellir i’w Gymrodoriaeth wedyn eu hethol yn ffurfiol drwy bleidlais gan y Cymrodyr.

Gallwch archwilio’r broses yn fanylach yma.

Os hoffech gael gwahoddiad i sesiynau ar-lein a gynhelir bob blwyddyn i roi cyngor a chefnogaeth i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cael eu henwebu, gallwch glicio ar y ddolen hon i gael manylion y cylch etholiadau sydd ar ddod.

Dyma rai Cwestiynau Cyffredin a allai fod yn ddefnyddiol i chi:

1. Cwestiynau cymhwysedd

▶️Pwy sy’n gymwys i fod yn Gymrawd?

Er mwyn bod yn gymwys i gael eu hethol, mae angen i enwebeion fodloni ein diffiniad o Gymrawd:

  • Hanes amlwg o ragori a chyflawni mewn disgyblaeth academaidd, neu o fod wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fyd dysgu yn y byd proffesiynol.
  • Cysylltiad penodol â Chymru (er enghraifft preswylydd yng Nghymru neu’n enedigol o Gymru).
▶️Oes rhaid i enwebai fod yn athro neu’n academydd?

Nac oes. Er bod llawer o’n Cymrodyr yn athrawon, does dim rhaid i enwebai fod yn academydd, a does dim rhaid i enwebai academaidd fod yn athro. Y cwestiwn allweddol rydyn ni’n ei ofyn yw a yw enwebai’n dangos cyfraniad rhagorol tuag at fyd gwybodaeth. Rydym yn mynd ati’n weithredol i annog enwebiadau o ystod eang o sectorau ac yn credu’n gryf ym mhwysigrwydd cyfraniadau at wybodaeth a wneir o’r tu allan i brifysgolion.

▶️Pwy sy’n enwebu?

Rhaid i enwebiadau fod wedi’u cyflwyno gan Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Byddant yn cydweithio’n agos â’r enwebai i gyflwyno’r dystiolaeth orau o’u hachos.

DOES DIM angen i gymrodyr ac enwebeion fod o’r un sefydliad na disgyblaeth.
Gweler y pwynt nesaf er mwyn helpu i bennu Cymrawd fel cynigydd.

2. Cwestiynau am y broses enwebu/ethol

▶️Dydw i ddim yn meddwl fy mod yn adnabod Cymrawd – sut mae cael fy enwebu?

Rydym yn cydnabod bod y berthynas rhwng Cymrawd a’r enwebai yn un bwysig ac yn awyddus i’ch helpu i gael hyd i’r unigolyn cywir i weithio gyda nhw.

Ewch i’n tudalen ‘Cymrodyr Cyfredol’ i weld rhestr chwiliadwy i wirio a ydych eisoes yn adnabod Cymrawd. Fe’ch anogir i gysylltu’n uniongyrchol ag unrhyw un rydych chi’n ei adnabod a gofyn a wnaiff ystyried eich enwebu.

Os ydych chi’n gysylltiedig â phrifysgol yng Nghymru, cysylltwch â’ch Cenhadon a all hefyd roi arweiniad.

Fel arall, cysylltwch â’n Swyddog Cymrodoriaeth Stanislava Sofrenić a fydd yn eich helpu.

▶️Beth yw’r dyddiad cau ar gyfer enwebiadau eleni?

Y dyddiad cau yw 31 Hydref 2025.

▶️Sut fyddwch chi’n asesu enwebiad?

Yn ogystal â’r ffurflenni enwebu a gwblheir gan y ‘cynigydd’ (Cymrawd) a’r enwebai, byddwn hefyd yn ceisio ‘adolygiadau’ gan gymheiriaid annibynnol. Caiff yr holl wybodaeth hon wedyn ei ystyried gan bwyllgor etholedig o gymheiriaid perthnasol. Gelwir y pwyllgorau hyn yn bwyllgorau craffu. Cewch weld rhestr o’r pwyllgorau a’u haelodau yma.

Gallwch weld ein gwaith papur a’n canllawiau yma.

▶️Ble mae’r ffurflenni?

Mae ffurflenni a chanllawiau ar gael ar y wefan yn Gymraeg ac yn Saesneg.

▶️Pwy sy’n gweld fy enwebiad?

Bydd y Swyddog Cymrodoriaeth yn derbyn y gwaith papur ac yn casglu’r enwebiadau i bob Pwyllgor Craffu gael edrych arnynt.


Bydd y Pwyllgor Craffu y dewisoch wneud cais iddo yn adolygu ac yn trafod eich enwebiad. Bydd yr Is-lywyddion yn goruchwylio’r broses er mwyn rhoi adborth ond ni fyddant yn rhan o drafodaethau’r Pwyllgor Craffu.


Yn ogystal â’ch ffurflenni enwebu, cewch hefyd ddewis cyflwyno ffurflen gyfrinachol ‘Amgylchiadau Unigol’ a ystyrir gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu yn unig, ac ni chaiff manylion hyn eu rhannu â gweddill y Pwyllgor. (Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd)

▶️Beth sy’n digwydd ar ôl cwblhau’r broses Graffu?

Byddwn yn cysylltu â’r holl enwebeion i’s hysbysu ynghylch canlyniad y broses ym mis Ebrill bob blwyddyn.

Os bydd unigolyn wedi’i ethol, bydd yn derbyn gwybodaeth ymgyfarwyddo, llythyr o groeso ac esboniad ynghylch sut i gymryd rhan yn y Gymdeithas.

Os na chaiff unigolyn ei ethol, byddwn yn cysylltu i roi gwybod hynny, i’w annog i ystyried cael ei ailenwebu ac i gynnig amser gydag un o’n His-lywyddion er mwyn cael adborth ar sut i gryfhau ei achos yn y dyfodol.

Ni fydd pob un o’r Cymrodyr yn cael eu hethol y tro cyntaf iddynt gael eu henwebu, ac mae sawl rheswm am hynny. Nid oes uchafswm i’r nifer o weithiau y gall unigolyn gael ei enwebu, ar yr amod bod y gwaith papur cywir yn cael ei gyflwyno bob blwyddyn.

▶️Faint o enwebiadau fyddwch chi’n eu cael?

Nid yw hwn yn ffigur sefydlog – mae’r niferoedd yn amrywio o’r naill flwyddyn i’r llall. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi cael rhwng 40 ac 80 bob blwyddyn.

▶️Faint o Gymrodyr sy’n cael eu hethol bob blwyddyn?

Tua 40-60, ond nid yw’r nifer hwnnw’n sefydlog, ac nid oes gennym uchafswm blynyddol ar nifer y bobl y ceir eu hethol. Mae’r penderfyniad i ethol neu beidio yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynir gan yr enwebai, yn ogystal ag asesiad annibynnol o achos yr unigolyn a phleidlais derfynol y Cymrodyr.

3. Cwestiynau am amrywiaeth y Gymrodoriaeth

▶️Beth mae’r Gymdeithas yn ei wneud ynglŷn ag ecwiti, amrywiaeth a chynhwysiant?

Rydym wedi ymrwymo’n weithredol i wneud y Gymdeithas, a’n Cymrodoriaeth, yn fwy croesawgar a chynhwysol. Rydym yn ymdrechu i greu Cymrodoriaeth sy’n fwy amrywiol, gyda mwy o aelodau o bob grŵp sydd wedi’i dangynrychioli. Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio’n benodol ar gynyddu enwebeion o blith menywod a phobl o gefndir lleiafrifol ethnig. Cewch ddysgu mwy am ein dull yma.

▶️Gallaf weld eich bod yn annog mwy o enwebeion o blith menywod a phobl o gefndir lleiafrifol ethnig. Beth yw ystyr hyn?

Rydym yn gwybod nad yw’r Gymrodoriaeth yn gytbwys o ran rhywedd, ac felly rydym yn gweithio’n ddyfal i gynyddu nifer y menywod a enwebir bob blwyddyn. Rydym yn gweithio’n uniongyrchol gyda Chymrodyr a sefydliadau i godi proffil y Gymrodoriaeth ymhlith menywod, yn cynnig sesiynau cymorth uniongyrchol i fenywod, ac yn annog ein Cymrodyr i enwebu mwy o fenywod bob blwyddyn.

Ar hyn o bryd nid ydym yn gallu dadansoddi amrywiaeth ein Cymrodoriaeth y tu hwnt i rywedd, ond rydym yn cydnabod nad oes cynrychiolaeth ddigonol ymhlith pobl o gefndir lleiafrifol ethnig ar y cyfan. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae camau cadarnhaol wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl a enwebir ac a etholir i’r Gymrodoriaeth o gefndir lleiafrifol ethnig, ac rydym yn parhau ganolbwyntio ar ddatblygu hyn ymhellach.

4. Cwestiynau Cyffredinol

▶️Sut mae Cymrodyr yn cefnogi’r Gymdeithas?
  • Cymryd rhan!

Rydym yn annog ein holl Gymrodyr i gymryd rhan yn weithredol yn y Gymdeithas. Mae ein Cymrodyr yn rheoli ein cyfeiriad strategol, gofynnir am fewnbwn arbenigol ein Cymrodyr i’n gwaith polisi, ac mae ein Hymchwilwyr Gyrfa Gynnar yn cael cefnogaeth gan ein Cymrodyr. Gall Cymrawd ddewis ymwneud â’r Gymdeithas mewn sawl ffordd, gyda’r ymrwymiadau o ran amser yn amrywio yn dibynnu ar ddyheadau ac argaeledd yr unigolyn.

  • Cyfrannu at sefydlogrwydd ariannol yr Elusen:

Bydd Cymrodyr newydd yn talu ffi mynediad o £90. Ceir ffi danysgrifio flynyddol hefyd o £180.

Rydym am sicrhau nad yw ein ffioedd mynediad ac aelodaeth fyth yn rhwystr i fod yn Gymrawd. Rydym yn gweithredu Polisi lleihau neu hepgor ffioedd i Gymrodyr sy’n ei chael hi’n anodd talu ffioedd oherwydd amgylchiadau. Fel enwebai, gallwch wneud cais ymlaen llaw, a byddwn yn rhoi gwybod ichi cyn yr enwebiad a yw wedi’i ganiatáu.

Mae’r ffi yn gostwng i £90 i rai dros 70 oed ar ddechrau pob blwyddyn o’r gymdeithas. Nid yw’r rhai dros 85 oed yn gorfod talu ffi mynediad nac aelodaeth.

▶️Gyda phwy y dylwn i gysylltu os oes gennyf ymholiad pellach?

Cysylltwch â Stanislava Sofrenic, Swyddog y Gymrodoriaeth.

yn ôl i'r brig