Meini prawf ethol Cymrodyr

I fod yn gymwys i gael eu hethol, mae angen i enwebeion fodloni ein diffiniad o Gymrawd:

Bydd y Cymrodyr yn unigolion sy’n preswylio yng Nghymru, unigolion a anwyd yng Nghymru ond sy’n preswylio yn rhywle arall ac eraill sydd â chysylltiad penodol â Chymru; ym mhob achos bydd ganddynt hanes amlwg o ragoriaeth a chyflawniad mewn un o’r disgyblaethau academaidd neu, os ydynt yn aelodau o’r proffesiynau, y celfyddydau, diwydiant, masnach neu wasanaethau cyhoeddus, byddant wedi gwneud cyfraniad nodedig i fyd dysg.

Bydd y meini prawf a’r mesur o arbenigrwydd wrth reswm yn amrywio rhwng gwahanol ddisgyblaethau a
meysydd cyflawniad. Rydym yn mesur cyflawniadau pob Enwebai yn ôl y cyfleoedd maen nhw wedi’u cael yn eu
gyrfa. Fodd bynnag, ym mhob achos, rydym yn diffinio rhagoriaeth yn nhermau’r meini prawf cyffredinol
canlynol:

  • Cyflawniad eithriadol (ansawdd eich cyflawniadau a’ch cyfraniadau at ddysgu)
  • Statws proffesiynol (cryfder eich enw da ymhlith eich cyfoedion)
  • Cyfraniadau ehangach (yr effaith rydych wedi’i chael ar bobl, sefydliadau neu gymdeithas ehangach)

Gallai fod gennych ddiddordeb hefyd yn ein meini prawf ar gyfer Cymrodyr er Anrhydedd.

Gweler Ffurflenni Enwebu am fwy o fanylion.

Os oes gennych chi ymholiadau, cysylltwch â Swyddog Cymrodoriaeth, Fiona Gaskell.