Y Broses Etholiad

Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn broses drylwyr, gyda Chymrodyr presennol yn cyfrannu ar bob cam o’r enwebu a’r asesu. Rydym yn croesawu enwebiadau gan bobl o bob cefndir, profiad, barn, cred a diwylliant.

Mae’r amserlen ar gyfer y broses eleni fel a ganlyn:

1 Mehefin i 31 Hydref 2023 – Cyfnod Enwebu

Cyflwyno enwebiadau. Caiff enwebiad ei wneud gan Gynigydd, gyda chefnogaeth Eilydd. Rhaid iddynt fod yn Gymrodyr y Gymdeithas.

Tachwedd – Rhagfyr 2023 – Mae’r Enwebiadau wedi eu Prosesu
Bydd y Pwyllgor Craffu yn ceisio o leiaf ddau adroddiad asesu annibynnol ar bob Enwebai.

Ionawr – Chwefror 2024 – Pwyllgorau Craffu yn cyfarfod

Bydd pob Pwyllgor Craffu yn cyfarfod i asesu’r holl enwebiadau y mae wedi’u derbyn. Bydd y Pwyllgorau Craffu yn gwneud argymhellion i’n Is-lywyddion.

Mawrth 2024 – Y Cyngor wedi penderfynnu ar restr derfynol o Gymrodorion arfaethedig ar gyfer 2024
Is-Lywyddion yn cynnig rhestr fer i Gyngor y Gymdeithas. Y Cyngor yn cwblhau’r rhestr o Enwebeion.

Ebrill 2024 – Pleidleisio am Gymrodorion a Hysbysiad Cyhoeddus
Mi fydd Y Gymrodoriaeth yn pleidleisio ar gyfer Enwebeion. Bydd yr Enwebyddion oll, p’un a ydynt yn llwyddiannus neu beidio, yn cael gwybod cyn yr hysbysiad cyhoeddus. Rydym fel arfer yn hysbysu ar ddiwedd Mis Ebrill.

Gweler Ffurflenni Enwebu am fwy o fanylion.

Os oes gennych chi ymholiadau, cysylltwch â Swyddog Cymrodoriaeth, Fiona Gaskell.