Ffurflenni Enwebu
Cyn enwebu, mae’n hanfodol darllen ein dogfennau canllaw cysylltiedig. Mae’r rhain yn cynnwys cyngor ar sut i lenwi pob adran o’r ffurflenni.
Rhaid i’r Cynigydd (Y Cymrawd) gyflwyno’r holl ddogfennau erbyn 31 Hydref er mwyn i enwebiad gael ei ystyried.
Yn ogystal â’r ffurflenni Enwebu, caiff Enwebeion hefyd ddewis llenwi Ffurflen Amgylchiadau Unigol gyfrinachol, yn manylu ar unrhyw amgylchiadau a allai fod wedi effeithio ar eu gyrfa.
Ar hyn o bryd ceir dwy set wahanol o ffurflenni enwebu:
- Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a’r Proffesiynau (ICAP)
- Enwebiadau Cymrodoriaeth y Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol (HASS) a Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth (STEMM)
ICAP
- Canllawiau ethol ICAP 2025-26
- Ffurflen Enwebu ICAP 2025
- Llythyr templed y cynnigwr i adolygwyr posibl
- Ffurflen tystiolaeth enwebai ICAP 2025
- Adroddiad cefnogwr gwybodus ICAP 2025
- CV yr enwebai (wedi’i ddarparu gan yr enwebai)
- Ffurflen amgylchiadau unigol (dewisol)
HASS & STEMM
- Canllawiau ethol HASS a STEMM 2025-26
- Ffurflen Enwebu HASS a STEMM 2025
- Llythyr templed y cynnigwr i adolygwyr posibl
- Ffurflen tystiolaeth enwebai HASS a STEMM 2025
- Adroddiad cefnogwyr gwybodus HASS a STEMM 2025
- CV yr enwebai (wedi’i ddarparu gan yr enwebai)
- Ffurflen amgylchiadau unigol (dewisol)
Darllenwch y canllawiau ac os ydych yn ansicr, gofynnwch am gyngor gan yr Swyddog Cymrodoriaeth i sicrhau bod eich enwebiad yn mynd drwy’r llwybr cywir. Bydd eich enwebiad yn cael ei wrthod os na chaiff ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu cywir.