Yr Athro Clair Rowden
Mae Clair Rowden yn Athro mewn Cerddoriaeth yn Ysgol Diwylliant a Chelfyddydau Creadigol, Prifysgol Glasgow. Mae ei hymchwil yn trafod Ffrainc y bedwaredd ganrif ar bymtheg, trawsgenedlaetholdeb ac opera a theatr cerdd, ei dderbyniad gan y beirniaid, cynhyrchu llwyfan, dawns, eiconograffeg a gwawdluniau.
Mae ei chyhoeddiadau diweddar yn cynnwys Opera and Parody in Paris, 1860-1900 (Brepols, 2020) a’r gyfrol a gyd-olygwyd ganddi, Carmen Abroad: Bizet’s Opera on the Global Stage (Cambridge University Press, 2020), enillydd gwobr 2021 y Gymdeithas Gerddorol Frenhinol am gasgliad golygedig eithriadol. I ategu’r llyfr ceir gwefan ryngweithiol: ww.CarmenAbroad.org.
Cerddolegydd cyhoeddus yw’r Athro Rowden, sydd wedi ymrwymo i ymgysylltu â’r cyhoedd a chyfnewid gwybodaeth, ac mae’n ysgrifennu nodiadau rhaglen yn rheolaidd ar gyfer yr Opéra-Comique, Paris, Gŵyl Opera Wexford, Opera Cenedlaethol Cymru, y Tŷ Opera Brenhinol, Opera Bilbao a Gŵyl Salzburg.