Menai Owen-Jones

Etholwyd: 2025

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Gwasanaeth Cyhoeddus

Prif Weithredwr, LATCH Elusen Plant Cymru. Gyngor Sefydliad y Cyfarwyddwyr.

Mae Menai Owen-Jones yn brif weithredwr sydd wedi ennill gwobrau yn y sector cymdeithasol, ac yn gyfarwyddwr anweithredol profiadol. Mae’n gynghorydd annibynnol i Gomisiwn Senedd Cymru ac yn gyd Is-gadeirydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. O 2020 tan 2025 gwasanaethodd fel aelod o Fwrdd Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae Menai yn Gyfarwyddwr Siartredig cymwys, wedi ennill LLB yn y Gyfraith ac mae ganddi Dystysgrif Ôl-radd mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Cymru. Mae’n un o Gymrodyr Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, y Sefydliad Materion Cymreig ac, o 1 Mehefin 2025, mae’n eistedd ar Gyngor Sefydliad y Cyfarwyddwyr, y mae hefyd yn Gymrawd ohono. Hi oedd enillydd y Wobr ‘C-Suite’ yn y Gwobrau Busnes i Fenywod 2025.

 

yn ôl i'r brig