Mynegiannau o Ddiddordeb Ar Agor
Mynegiannau o Ddiddordeb yn Cau am 4pm
Diwrnod Hyfforddiant a Chyflwyno
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau
Dyddiadau Dechrau ar gyfer Prosiectau
Adroddiad Dros Dro
Adroddiadau Terfynol
Cyllidwyr: Ymddiriedolaeth Williamson a Chymdeithas Ddysgedig Cymru
Mwyafswm gwerth y grant: £10,000
Nifer y grantiau sydd ar gael: 3
Mynegiant o Ddiddordeb yn Agor: 10 Medi 2025
Mynegiant o Ddiddordeb yn Cau: 31 Hydref 2025, 4.00 pm
Mewn oes o gamwybodaeth, rydym am ariannu ymchwilwyr a rhai sy’n cynhyrchu gwybodaeth i greu a chyfathrebu cynnwys arloesol, difyr, a dibynadwy er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd yng Nghymru (a thu hwnt). Mae’n rhaid i’r cyd-destun fod yn seiliedig ar waith ymchwil a thystiolaeth ddibynadwy sy’n bodoli eisoes, gan gyfrannu at Gymru iachach, pobl iachach yng Nghymru, a/neu blaned iachach. Bydd ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer yn derbyn hyfforddiant arbenigol er mwyn cefnogi gyrfa a datblygu cynnwys, gydag ymgeiswyr llwyddiannus yn ffurfio carfan o leisiau ymddiriedig yng Nghymru.
Gall ymgeiswyr ddewis pa fath o sianel gyfathrebu maent am ei defnyddio, o TikTok i wyliau. Hoffem weld prosiectau wedi’u targedu gyda gweledigaeth glir, cynulleidfa benodol, a phwnc diffiniedig.
Pwy all wneud cais?
Rhai sydd wedi adnabod eu hunain fel bod yn Ymchwilydd/ymchwilwyr neu gynhyrchydd/gynhyrchwyr gwybodaeth sydd wedi’u lleoli yng Nghymru neu sydd wedi’u lleoli mewn sefydliad yng Nghymru. Anogir ceisiadau gan dimau, yn arbennig rhai sy’n cael eu harwain gan grwpiau cymunedol ar lawr gwlad.
Sut i wneud cais
Cyn cyflwyno’ch cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y dogfennau canllaw canlynol yn ofalus: