Bwrsariaethau Teithio a Threuliau YGC

Dyddiadau Allweddol

7 Ionawr 2026

Galwad yn Agor

13 Chwefror 2026

Galwad yn cau am 4pm

erbyn 23 Mawrth 2026

Canlyniad Ceisiadau

Un mis ar ôl y gweithgaredd arfaethedig

Adroddiad Terfynol

31 Ionawr 2027

Rhaid gwario’r cyllid erbyn y dyddiad hwn

Arianwyr: Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Gwerth y Grant: Rhwng £100 a £1000
Ceisiadau Ar Agor: 7 Ionawr 2026
Dyddiad Cau’r Ceisiadau: 13 Chwefror 2026 am 4pm

Mae ein bwrsariaethau Teithio a Threuliau yn cynnig cefnogaeth hanfodol i Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar i fynychu gweithgareddau ymgysylltu. Mae’r gweithgareddau hyn yn bwysig er mwyn cyfnewid gwybodaeth, gwella proffiliau ymchwil, ac ehangu rhwydweithiau proffesiynol. O ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol, nid yw llawer o Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar yn gallu cael mynediad at arian ar gyfer hyn bellach. Drwy gynnig cefnogaeth i Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar trwy’r gronfa hon, rydym yn ceisio dileu rhwystrau i ymchwilwyr sy’n wynebu cyfyngiadau ariannol, a chaniatáu iddynt gael cydnabyddiaeth a datblygu yn eu gyrfaoedd.

Mae’r bwrsariaethau’n cael eu cefnogi trwy gyfraniadau hael Cymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Gall Cymdeithas Ddysgedig Cymru ychwanegu at y cyfraniadau hyn hefyd trwy ddefnyddio cyllid craidd.

Cyn cyflwyno eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y dogfennau canllaw canlynol yn ofalus:

Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy ein ffurflen ar-lein, y gellir ei chyrchu drwy’r ddolen isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 13 Chwefror 2026 am 4pm. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.