Yn bersonol

Darlith Zienkiewicz 2025

19 Tach, 2025:

5:30 pm -

Roed Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn falch i gefnogi Darlith Zienkiewicz y Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe trwy ein rhaglen Cefnogaeth Digwyddiadau i Gymrodyr CDdC . Cafodd y ddarlith, ar ‘Rhaglen ymasiad y DU’ ei chyflwyno gan Yr Athro Syr Ian Chapman, Brif Swyddog Gweithredol Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI).

Y ddarlith

Gellir gwylio recordiad o’r ddarlith yma.

Bywgraffiad
Yr Athro Syr Ian Chapman yw darpar Brif Swyddog Gweithredol Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI). Bydd yn dechrau’r rôl ym mis Awst 2025. Mae Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI) yn dod â Chynghorau Ymchwil y DU, Innovate UK a Research England ynghyd, gan weithredu â chyllid cyfunol o fwy na £9 biliwn y flwyddyn.
Ian yw Prif Swyddog Gweithredol Awdurdod Ynni Atomig y DU (UKAEA) ar hyn o bryd, swydd y mae wedi bod yn gweithio ynddi ers mis Hydref 2016.

Mae wedi gweithio mewn nifer o swyddi rhyngwladol ym maes ymasiad, gan gynnwys bod yn gadeirydd presennol ar Bwyllgor Ymchwil Ymasiad yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol.

Mae ei ymchwil wedi cael ei chydnabod gan nifer o wobrau rhyngwladol, gan gynnwys:

  • Medal Paterson y Sefydliad Ffiseg yn 2013
  • Gwobr Stix Cymdeithas Ffisegol America yn 2017
  • Medal Kavli y Gymdeithas Frenhinol yn 2019
  • Medal Glazebrook y Sefydliad Ffiseg am arweinyddiaeth yn 2021

Gwnaed ef yn Gymrawd y Sefydliad Ffiseg yn 2013, daeth yn athro gwadd ym Mhrifysgol Durham yn 2015, a chafodd ei ethol yn Gymrawd o’r Academi Frenhinol Peirianneg yn 2022.
Yn 2023, cafodd ei urddo’n farchog yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin, gwnaed ef yn Gymrawd Er Anrhydedd y Sefydliad Niwclear a chafodd ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol.

Crynodeb

Mae ymasiad yn cynnig y potensial i ddarparu pŵer parhaus, diogel a charbon isel. Fodd bynnag, mae heriau technegol i’w goresgyn o hyd er mwyn cyflawni ymasiad. Yn ogystal, mae angen camau ychwanegol amrywiol eraill er mwyn gwneud ymasiad yn realiti cyn gynted â phosibl.

Mae’r sgwrs hon yn esbonio ymagwedd y DU at gyflawni ymasiad ac yn gosod hyn yng nghyd-destun rhaglenni ymasiad mawr eraill yn rhyngwladol. Wedyn, disgrifio’r prif heriau technegol y mae angen mynd i’r afael â nhw er mwyn adeiladu gorsaf bŵer ymasiad magnetig, ac yn rhoi trosolwg cryno o’r allbynnau a’r darganfyddiadau allweddol a fydd yn ofynnol ar y llwybr hwnnw. Cyflwynir trosolwg o ddarganfyddiadau mawr diweddar yn y maes, ynghyd â rhagolwg ar y dyfodol ynghylch y llwybr i gyflawni pŵer ymasiad.