Ar-lein ac yn bersonol

Symposiwm Ymchwil Clinigol Ysgol Feddygol Gogledd Cymru

21 Tach, 2025:

9:00 pm -

21 Tach, 2025:

1:35 pm

Anelir y digwyddiad at academyddion, clinigwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws Gogledd Cymru sydd a diddordeb mewn ymchwil clinigol. Bydd yn egluro cyfleoedd i ymwneud ag ymchwil yn ogystal ag arddangos yr ymchwil clinigol rhagorol sy’n digwydd ar draws y rhanbarth. Cefnogir y digwyddiad yn hael gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Prif siaradwyr:

  • Mr Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru
  • Yr Athro Lucy Chappell, Prif Gynghorydd Gwyddonol i DHSC a Phrif Weithredwr NIHR
  • Mr Gareth Cross, Cyd-Gyfarwyddwyr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth, Ymchwil a Thystiolaeth, Llywodraeth Cymru

Bydd trafodaeth banel wedyn efo Cyfarwyddwyr canolfannau ymchwil clinigol Gogledd Cymru, wedi’i chadeirio gan Gyfarwyddwr Ymchwil YFGC, Dr Emily Holmes.

Cofrestrwch ymahttps://forms.office.com/e/tKaQSUd4Nq Y dyddiad olaf i gofrestru ydy 10 Tachwedd.

Cynhelir y Symposiwm mewn person. Fodd bynnag bydd yn cynnwys sesiwn 45 munud efo holi ac ateb, yn cychwyn am 12:45, o’r enw ‘Sut gallaf i gymeryd rhan mewn ymchwil clinigol?’, wedi’i arwain gan Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Bydd y sesiwn yma’n cael ei ddarlledu fel ffrwd byw ar gyfer rhai na allant fod yn bresennol mewn person oherwydd dyletswyddau clinigol. I gofrestru ar gyfer y darllediad byw, dyma’r ddolen: https://forms.office.com/e/sgMJu82scB. Rhaid cofrestru at y ffrwd byw erbyn 19eg Tachwedd.