Colocwiwm Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar – galw am gynigion

Bydd ein Colocwiwm Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar yn cael ei gynnal ym Mangor ar 18 Mehefin. Ei thema yw ‘Cymru Gysylltiedig: Datblygu eich Gyrfa fel Ymchwilydd yng Nghymru a Thu Hwnt’. Rydym bellach yn gwahodd syniadau gan ymchwilwyr ar gyfer sgyrsiau cyflym a phosteri sy’n archwilio sut mae eu hymchwil yn effeithio ar dirwedd polisi Cymru, yn unol â saith egwyddor graidd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae’r thema hon wedi’i dewis i adlewyrchu ein huchelgais i ddatblygu rhwydwaith ymchwil cydlynol a rhyngddisgyblaethol yng Nghymru ac i gysylltu ymchwil Cymru â pholisi ac ymarfer. Mae dangos sut mae ymchwil yn effeithio ar y byd ehangach yn hanfodol ar gyfer datblygu ceisiadau gyllid llwyddiannus ac ar gyfer datblygu gyrfaoedd ymchwil.

Rydym yn gwahodd cynigion ar gyfer Sgyrsiau-Fflach a phosteri ymchwil. Anogir ymchwilwyr sy’n gweithio o fewn a thu allan i’r byd academaidd i wneud cais.

Mae’r colocwiwm wedi’i gynllunio i gefnogi ymchwilwyr i ddatblygu eu gyrfaoedd. Yn ogystal â’r Sgyrsiau-Fflach, bydd cyfleoedd i fynychwyr ehangu eu rhwydweithiau ymchwil, cyfarfod â Chymrodyr y Gymdeithas, a mynychu sesiynau ar ddatblygu ceisiadau gyllid llwyddiannus a gynhelir gan academyddion lefel uwch a chyrff cyllido.