Pam dod yn Gymrawd?

Mae ein Cymrodoriaeth yn rhychwantu'r gwyddorau, y dyniaethau, y celfyddydau a gwasanaethau cyhoeddus. Mae gan bob un o'n Cymrodyr ddau beth yn gyffredin – cysylltiad â Chymru a chyfraniad eithriadol i fyd dysgu.

Mae pobl eisiau bod yn Gymrodyr o’r Gymdeithas am lawer o resymau.

Cydnabyddiaeth gan gyfoedion

Mae Cymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o gyflawniad, ac mae’n aml yn arwain at gydnabyddiaeth bellach. Rydym yn cefnogi Cymrodyr i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach gyda’u gwaith.

Cymuned o ragoriaeth

Os byddwch yn cael eich hethol, byddwch yn ymuno â rhwydwaith o dros 680 o Gymrodyr. Gallwch gysylltu â phobl ar draws sefydliadau, disgyblaethau a sectorau, a chwarae eich rhan mewn llunio academi ar gyfer Cymru yn yr 21ain ganrif.

Rhannu arbenigedd

Mae ein Cymrodyr yn cefnogi eu cyfoedion drwy’r broses o ddod yn Gymrawd. Maen nhw’n llywio gwaith polisi a materion cyhoeddus y Gymdeithas, ac maen nhw’n dyfarnu ein medalau i ymchwilwyr sefydledig ac ymchwilwyr gyrfa gynnar.

Datblygiad proffesiynol

Rydym yn helpu Cymrodyr i fanteisio ar gyfleoedd eraill, fel rhwydweithiau proffesiynol, paneli REF a swyddi cyngor ymchwil. Rydym yn rhannu gwybodaeth am ddigwyddiadau a datblygiadau allweddol yng Nghymru a thu hwnt hefyd.