Yr Athro Tony Ford FLSW, 1941 – 2024

Trist iawn oedd clywed am farwolaeth ddiweddar un o’n Cymrodorion, yr Athro Tony Ford, a oedd yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol KwaZulu-Natal, Durban yn ne Affrica, lle bu’n byw ac yn gweithio ers 1970.

Cyflwynwyd y molawd hwn gan ei gydweithiwr a’i gyd-Gymro, yr Athro Mike Watkeys, mewn gwasanaeth coffa ar 6 Ebrill. Mae’n rhoi crynodeb hyfryd o fywyd a diddordebau yr Athro Ford.