Cwestiynau cyffredin

1. Cwestiynau cymhwysedd

Pwy sy’n gymwys i fod yn Gymrawd?

I fod yn gymwys i gael eu hethol, mae angen i enwebeion fodloni ein diffiniad o Gymrawd:

Bydd y Cymrodyr yn unigolion sy’n preswylio yng Nghymru, unigolion a anwyd yng Nghymru ond sy’n preswylio yn rhywle arall ac eraill sydd â chysylltiad penodol â Chymru; ym mhob achos bydd ganddynt hanes amlwg o ragoriaeth a chyflawniad mewn un o’r disgyblaethau academaidd neu, os ydynt yn aelodau o’r proffesiynau, y celfyddydau, diwydiant, masnach neu wasanaethau cyhoeddus, byddant wedi gwneud cyfraniad nodedig i fyd dysg.

Oes rhaid i enwebai fod yn athro neu’n academydd?

Nag oes. Athrawon ydy tua 80% o’n Cymrodyr ar hyn o bryd, ond mae rhai wedi dod yn athrawon ers eu hethol. Nid oes angen i’r enwebai fod yn academydd; yn wir, yn gyffredinol, nid academyddion yw Cymrodyr yn ein categori Busnes, Gwasanaeth Cyhoeddus ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd. Y cwestiwn allweddol rydym yn ei ystyried yw p’un a yw enwebai’n dangos cyfraniad rhagorol i fyd dysgu.

Pwy sy’n gallu enwebu?

Mae enwebiadau yn cael eu cyflwyno gan Gymrawd presennol Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Maen nhw’n gweithio gyda’r enwebai i sicrhau bod yr enwebiad wedi’i gwblhau, ac yn rhoi’r dystiolaeth orau o achos yr enwebai. Dim ond enwebiadau gan Gymrodyr rydym yn eu derbyn. Os nad ydych yn adnabod Cymrawd gallwn helpu (gweler isod).

2. Cwestiynau am y broses enwebu/ethol

Nid wyf yn adnabod Cymrawd – sut gallaf ddod o hyd i rywun i fy enwebu?

Os ydych yn gysylltiedig â phrifysgol yng Nghymru, cysylltwch â Chynrychiolydd Eich Prifysgol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Fel arall, cysylltwch â Fiona Gaskell, Swyddog Cymrodoriaeth, a fydd yn eich helpu.

Bet yw’r dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau eleni?

Y dyddiad cau ydy 31 Hydref 2023.

Ble mae’r ffurflenni?

Gallwch gael mynediad i ffurflenni a chanllawiau ar y wefan, yn Gymraeg a Saesneg:

https://www.cymdeithasddysgedig.cymru/cymrodoriaeth/dod-yn-gymrawd/ffurflenni-enwebu/

Pwy sy’n asesu’r enwebiadau?

Mae enwebiadau’n cael eu hasesu gan bwyllgor o Gymrodyr yn y ddisgyblaeth neu’r maes dysgu priodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n Bwyllgorau Craffu: cliciwch yma i weld rhestr o’r pwyllgorau a’u haelodau. Mae ein dogfennau canllaw yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y broses asesu sydd yn cael ei dilyn gan Bwyllgorau Craffu.

Beth sy’n digwydd os ydy fy enwebiad yn aflwyddiannus?

Byddwch yn ymwybodol na etholwyd pob un o’n Cymrodyr y tro cyntaf iddynt gael eu henwebu. Does dim terfyn ar faint o weithiau y gallwch gael eich enwebu, cyn belled â bod gwaith papur newydd yn cael ei gwblhau bob blwyddyn.

A fyddaf yn cael unrhyw adborth ar fy enwebiad?

Byddwn yn hysbysu enwebeion aflwyddiannus ddiwedd mis Ebrill, pan fydd y cylch etholiadol wedi’i gwblhau. Byddwn yn cynnig adborth ar bob enwebiad, a bydd hyn yn cael ei roi gan yr Is-lywydd priodol (ar gyfer enwebiadau STEMM neu HASS) neu gan y Llywydd (ar gyfer enwebiadau yn y categori Busnes, Gwasanaethau Cyhoeddus ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd).

Ydy eich proses yn dryloyw?

Mae ein dogfennau canllaw yn cyfeirio at bob agwedd ar y cylch. Mae’n cael ei defnyddio gan bawb sydd ynghlwm, o’r rhai a enwebwyd, i’r Pwyllgorau Craffu. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar y broses, cysylltwch â’n Swyddog Cymrodoriaeth, Fiona Gaskell.

Faint o enwebiadau ydw i’n eu cael?

Rydym fel arfer yn ystyried hyd at 100 o enwebiadau bob blwyddyn.

Faint o Gymrodyr sydd yn cael eu hethol bob blwyddyn?

Tua 50, ond nid yw hynny’n rif pendant. Mae’r etholiad yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynir gan yr enwebai, yn ogystal ag asesiad annibynnol o’u hachos.

3. Cwestiynau am y Gymrodoriaeth

Pa % o’r Cymrodyr sy’n fenywod?

Ym mis Mai 2023, roedd 27.4% o’r 686 o Gymrodyr yn fenywod. Mae’r gyfran hon yn codi bob blwyddyn, gyda menywod yn cynnwys 51.2% o’r rhai a etholwyd eleni. Rydym yn gweithio i gynyddu nifer yr enwebiadau ar gyfer menywod fel rhan o’n gwaith ehangach ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Beth mae’r Gymdeithas yn ei wneud am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant?

Rydym wedi ymrwymo i wneud y Gymdeithas, a’n Cymrodoriaeth, yn fwy croesawgar a chynhwysol. Rydym yn ymdrechu i gael Cymrodoriaeth fwy amrywiol, gyda mwy o aelodaeth o bob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio’n benodol ar gynyddu enwebiadau ar gyfer menywod. Rydym yn trefnu sesiynau gwybodaeth agored am ein proses enwebu/ethol Cymrodoriaeth, gan gynnwys sesiwn i fenywod yn unig. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar tegwch ac amrywiaeth.

4. Cwestiynau cyffredinol

Faint mae’n costio?

Mae’n rhaid i Gymrodyr newydd dalu ffi mynediad o £90. Mae ffi danysgrifio flynyddol o £180 (£90 i’r rheini sy’n 70 neu fwy ar 22 Mai 2024) hefyd. Mae’r rheini dros 85 oed yn cael eu heithrio rhag talu ffioedd mynediad a thanysgrifio.

Rydym eisiau sicrhau nad yw ein ffioedd mynediad ac aelodaeth byth yn rhwystr i Gymrodoriaeth. Rydym yn gweithredu Polisi Rhyddhad Ffioedd ar gyfer Cymrodyr y mae eu hamgylchiadau’n ei gwneud yn anodd iddynt dalu’r ffioedd. Fel enwebai, gallwch wneud cais rhagataliol, a byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn enwebu a fydd rhyddhad ffioedd yn cael ei ddyfarnu.

Gyda phwy y dylswn i gysylltu os oes gennyf ymholiadau pellach?

Cysylltwch â Fiona Gaskell, Swyddog Cymrodoriaeth.