Mwy o Ffocws ar Tegwch 

Mae ymrwymiad newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru i Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant, a ryddhawyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023, yn symud ein ffocws o gydraddoldeb i degwch. 

‘Nid yw cydraddoldeb (triniaeth gyfartal i bawb) yr un peth ag tegwch (canlyniad teg i bawb). Mae ein defnydd o’r term tegwch yn cydnabod y gwahaniaeth, ac yn cyfeirio at ein hymrwymiad i’r ymyrraeth fwy gweithredol y mae tegwch ei angen.’ 

Lluniwyd yr ymrwymiad diwygiedig gan weithgor o Gymrodyr a ddefnyddiodd ganfyddiadau adroddiad annibynnol i’n cofnod blaenorol ar Amrywiaeth, Ecwiti a Chynwhysiant. 

Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y flwyddyn ddiwethaf o ran gwella’r cydbwysedd rhwng y rhywiau rhwng Cymrodyr newydd o fewn y Gymdeithas. Roedd menywod yn cynnwys ychydig o dan 50% o’r nifer a gafodd eu derbyn yn 2022. Y nod, sydd yn cael ei nodi yn yr ymrwymiad Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant newydd, yw cael rhaniad o 50/50 ar gyfer enwebiadau ar gyfer Cymrodoriaeth o flwyddyn i flwyddyn. 

“Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r cynnydd mae’r Gymdeithas wedi’i wneud mewn nifer o feysydd,” meddai’r Prif Weithredwr, Olivia Harrison.

“Fodd bynnag, mae mwy i’w wneud, ac mae ein datganiad Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant newydd yn dangos ein bwriad.

“Er enghraifft, rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni wella ein cofnod yn sylweddol ar grwpiau ethnigrwydd sydd wedi’u tangynrychioli o fewn Cymrodoriaeth y Gymdeithas.

“Mae’r ffocws ar tegwch yn arbennig o bwysig, ac rydym yn falch o’i weld yn cysylltu â neges Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni. Mae cydnabyddiaeth gynyddol o’r angen i unioni’r annhegwch sydd wedi cronni dros y blynyddoedd. Rydym wedi ymrwymo i flaenoriaethu a chynnwys grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli yn y Gymdeithas a’n gwaith, ac i gymryd camau wedi’u targedu lle bo angen i sicrhau canlyniadau gwell i bawb.”

Fel rhan o’r broses o wella, bydd yr holl Gymrodyr yn cael cais i lenwi arolwg Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant dienw, a fydd yn helpu i ddarparu data pwysig i fesur y cynnydd sydd angen i ni ei wneud. 

“Efallai bod rhywfaint o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn fewnol yn ymddangos yn sych ac yn dechnegol,” meddai Olivia Harrison. “Fodd bynnag, mae’r wybodaeth rydym yn ei chasglu yn bwysig er mwyn i ni fod yn atebol, ac i fesur p’un a ydym yn gwneud cynnydd ar ein hymrwymiadau.”