Yr Athro Keith Smith

Etholwyd: 2011

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Cemeg

Athro Cemeg Organig, Prifysgol Caerdydd

Mae’r Athro Keith Smith wedi treulio ei yrfa’n bennaf yn y byd academaidd yng Nghymru. Er 2006 mae hefyd yn rhedeg cwmni ymchwil cemegol bach yn Abertawe ac mae wedi ymwneud yn helaeth ag amrywiol gyrff elusennol, yn bennaf yn gysylltiedig â gwyddoniaeth a’r byd academaidd.

Ar ôl graddio o Brifysgol Manceinion gyda graddau BSc, MSc a PhD mewn cemeg treuliodd flwyddyn yn Eidgenössische Technische Hochschule Zürich (ETH Zurich) yn Gymrawd Cyfnewid Ôl-Ddoethurol Ewropeaidd y Gymdeithas Frenhinol cyn ymuno â staff academaidd Prifysgol Abertawe (Coleg Prifysgol Abertawe ar y pryd) yn 1972. Yn 1978-79 treuliodd flwyddyn sabothol ym Mhrifysgol Purdue yn UDA ar wahoddiad yr Athro HC Brown (a enillodd Wobr Nobel am Gemeg yn 1979) ond ar wahân i hynny arhosodd ym Mhrifysgol Abertawe tan 2007, gan godi i raddfa Athro yn 1988 a threulio dau gyfnod yn Bennaeth Cemeg (1990-1993 a 2001-2007) yn ogystal â blwyddyn yn Ddeon Materion Tramor. Yn 2007 symudodd i Brifysgol Caerdydd yn Athro Cemeg Organig a phan ymddeolodd yn ffurfiol yn 2013 dyfarnwyd teitl Athro Emeritws iddo gan Brifysgol Caerdydd.

Dros hanner can mlynedd yn y byd academaidd mae’r Athro Smith wedi cynhyrchu dros 400 o gyhoeddiadau, yn cynnwys erthyglau ymchwil, llyfrau, penodau a phatentau. Yn 2006 dechreuodd gwmni deillio i fasnacheiddio rhai agweddau ar ei ymchwil ac mae’n parhau’n gyfarwyddwr rheoli’r cwmni hyd heddiw.

Mae’n gemegydd siartredig ac fe’i hetholwyd i Gymrodoriaeth y Gymdeithas Gemeg Frenhinol (RSC) yn yr 1980au. Mae wedi gwasanaethu’r Gymdeithas honno mewn sawl swydd, yn cynnwys aelod o’r Cyngor (ddwy waith), aelod o’r Pwyllgor Cyllid, Llywydd Adran Leol De Orllewin Cymru, Ysgrifennydd Anrhydeddus Adran Perkin ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Cyrsiau Ôl-Brofiad, ac ar hyn o bryd mae’n Is-gadeirydd Pwyllgor Disgyblu’r RSC. Ef hefyd oedd enillydd cyntaf Gwobr yr RSC yn Noddedig gan Ddiwydiant (medal a gwobr) am Gemeg Werdd.

Mae’n gyn-Lywydd ac aelod o Gyngor Cynhadledd Genedlaethol yr Athrawon Prifysgol ac wedi gwasanaethu ar Bwyllgor Sefydlog y Pwyllgor Addysg Uwch Cemeg, a bu’n Gadeirydd Adran Cymru y pwyllgor hwnnw. Mae wedi gweithredu fel Cadeirydd Gwyddoniaeth a’r Cynulliad, digwyddiad blynyddol a drefnir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae ei rolau ar hyn o bryd yn cynnwys Aelod o’r Cyngor/Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Addysgol Syr Richard Stapley ac aelod o grŵp Rhyngbleidiol STEMM Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Fe’i hetholwyd i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2011 ac mae wedi bod yn Ymddiriedolwr ac aelod o’i Chyngor er 2012. Daeth yn Drysorydd ym mis Mai 2018.