Gwobrau Effaith
Mae’r pedair Gwobr Effaith yn dathlu effaith unigolion neu dimau sy’n gweithio mewn unrhyw feysydd ymchwil neu arloesi ac o unrhyw ddisgyblaeth neu alwedigaeth.
Rydym yn gwahodd pobl i enwebu unrhyw un sy’n gweithio yn y sector ymchwil neu arloesi ar draws amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys y byd academaidd, diwydiant, y sector elusennol, a’r celfyddydau. Bydd gwaith yr enwebeion yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y wobr ddewisol a bydd ganddynt gysylltiad amlwg â Chymru.