Medalau Gyrfa Gynnar
Mae’r Medalau Gyrfa gynnar yn dathlu effaith unigolion sy’n gweithio mewn unrhyw feysydd ymchwil neu arloesi ac o unrhyw ddisgyblaeth neu alwedigaeth.
Mae pedair medal - pob un yn ymwneud â disgyblaeth neu faes gwaith gwahanol - wedi’u hanelu at unigolion sy'n gynharach yn eu gyrfa.
Maent ar agor i unrhyw un sy’n gweithio mewn academia, diwydiant, y Celfyddydau a phroffesiynau sydd â chysylltiad â Chymru.