Medalau Gyrfa Sefydledig

Mae’r Medalau Gyrfa Sefydledig yn dathlu effaith unigolion sy’n gweithio mewn unrhyw feysydd ymchwil neu arloesi ac o unrhyw ddisgyblaeth neu alwedigaeth.

Mae pedair medal - pob un yn ymwneud â disgyblaeth neu faes gwaith gwahanol - wedi’u hanelu at unigolion sydd ar ganol neu’n ddiweddarach yn eu gyrfa.

Rydym yn gwahodd pobl i enwebu unrhyw un sy’n gweithio yn y sector ymchwil neu arloesi ar draws amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys y byd academaidd, diwydiant, y sector elusennol, a’r celfyddydau. Bydd gwaith yr enwebeion yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y fedal neu’r wobr ddewisol a bydd ganddynt gysylltiad amlwg â Chymru.